Eich cyfrifoldeb chi yw eich iechyd. Mae pob aelod o’n tîm yn ymrwymo i’ch helpu fanteisio ar bob cyfle i fwynhau’r cyfleusterau sydd gennym i’w cynnig. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi ystyried yn ofalus beth allwn ni ddisgwyl gan ein gilydd o fewn rheswm mewn cysylltiad â’r COVID-19.Bydd y disgwyliadau canlynol yn helpu inni gadw pellter cymdeithasol a chynnal amgylchedd glân a diogel i ymarfer ynddo.Ein hymrwymiad i chi:Byddwn yn gweithio gyda chi i reoli pellter cymdeithasol ar bob ymweliad.Bydd gennym well trefn lanhau.Byddwn yn rheoli nifer y cwsmeriaid yn yr adeilad ar unrhyw adeg arbennig ac yn cyfyngu ar y niferoedd lle bo angen.Gallwn weithredu trefn unffordd drwy’r adeilad.Byddwn yn sicrhau ein bod yn rheoli adnoddau ac offer i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol.Byddwn yn rheoli niferoedd y cyfranogwyr mewn holl weithgareddau.Byddwn yn sicrhau bod gan fynychwyr dosbarthiadau ymarfer grŵp fannau gweithio unigol a bydd aelod o’r tîm yn gosod offer glân cyn y dosbarth.Byddwn yn cynnig dosbarthiadau ymarfer grŵp awyr agored, pan fo cyfleusterau ac amgylchiadau’n caniatáu.Byddwn yn cynnig glanweithydd a diheintydd i gwsmeriaid lanhau offer.Bydd gennym orsafoedd glanweithydd dwylo drwy’r holl adeilad.Bydd trefn archebu o flaen llaw ar gyfer holl weithgareddau gyda mynediad yn unig i gwsmeriaid sydd wedi archebu o flaen llaw.Bydd arwyddion clir i helpu i chi ddeall mesurau newydd.Bydd ein tîm hyfforddedig wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau ac i reoli gweithgareddau.Byddwn yn ymdrechu i gynnig y gwerth gorau oll am y tâl aelodaeth. Eich ymrwymiad i ni:Peidio ag ymweld â’n cyfleusterau os bydd gennych unrhyw un o symptomau COVID-19.Bod yn amyneddgar gyda’ch gilydd.Parchu pawb arall yn y cyfleuster a chadw pellter corfforol diogel rhyngoch.Dilyn canllawiau’r staff a darllen a chadw at yr arwyddion o gwmpas y cyfleuster.Cynnal hylendid dwylo da.Glanhau offer cyn ac ar ôl ei ddefnyddio gyda’r nwyddau glanhau a ddarperir.Cyrraedd yn barod i ymarfer, rhag ofn nad yw ein hystafelloedd newid ar gael.Dod â photel ddŵr lawn gyda chi, rhag ofn nad yw ein ffynhonnau dŵr yw ar gael.Archebu a thalu am holl sesiynau o flaen llaw.Diolchwn i chi am ddal i gydweithredu a chynorthwyo.