Pasbort i Hamdden

Aelodaeth Actif

Ar gyfer pwy mae'r aelodaeth hon?

Mae’r aelodaeth gostyngedig hon ar gyfer oedolion sy’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal incwm
  • Ceiswyr gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn gysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)/Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)

Pam ymuno ag aelodaeth Pasbort i Hamdden?

Mae'r aelodaeth hon yn cynnwys defnydd o'r pwll nofio, y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a mwy! Nid oes isafswm tymor i'r aelodaeth hon.

Sut mae ymuno â Phasbort i Hamdden?

Bydd angen i chi ymuno â'r aelodaeth hon yn eich canolfan hamdden leol. Prawf cymhwysedd i fod ar ffurf llythyr cadarnhad gan y Gwasanaeth Pensiwn neu'r Ganolfan Byd Gwaith dyddiedig o fewn y 6 mis diwethaf. Mae cymhwyster yn destun adolygiad bob 6 mis. Mae gennych yr opsiwn i dalu'r aelodaeth hon yn fisol gydag arian parod, cerdyn neu ddebyd uniongyrchol neu fel taliad blynyddol untro.

* Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi fod wedi cwblhau kickstart ( anwytho ) cyn y gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd.

Sut gallaf dalu am yr aelodaeth hon?

Gallwch dalu am yr aelodaeth hon trwy ddebyd uniongyrchol misol neu fel ffi flynyddol unwaith ac am byth. Os ydych yn talu'n flynyddol mae gostyngiad bach.

Mae’r aelodaeth hon hefyd ar gael fel cynnig talu wrth fynd o fis heb unrhyw dymor lleiaf.

 

Ffoniwch eich canolfan agosaf a siaradwch ag un o'r tîm i archebu eich kickstart

Cymharwch

Ystafell Ffitrwydd (Mae angen anwythiad cyn ei ddefnyddio)
Nofio
Gwersi Nofio (Oedolion yn unig)
Dosbarthiadau Ymarfer Grwp
Ystafell Iechyd (rhaid i oedolyn fod yng nghwmni pobl dan 16 oed)
Dringo (Sesiynau agored yn unig)
Bowlio Dan do
Chwaraeon Racquet (ac eithrio tenis)
Hwb Digidol
Cost

Oedolyn

Actif Unigolyn

£29.90
Debyd Uniongyrchol Misol
Cyfnod lleiaf o 3 mis yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£29.90

Consesiwn

Actif Unigolyn

£24.50
Debyd Uniongyrchol Misol
Gall cyfnod lleiaf fod yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£24.50

Arddegau

Actif Unigolyn

£21.70
Debyd Uniongyrchol Misol
Dim isafswm tymor
Mwy o wybodaeth
£21.70

Pasbort i Hamdden

Actif Unigolyn

£12.00
Debyd Uniongyrchol Misol
Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol
Dim isafswm tymor
Mwy o wybodaeth
£12.00

Aelwydydd

Aelodaeth Actif

£62.00
Debyd Uniongyrchol misol
Cyfnod lleiaf o 3 mis yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£62.00