Consesiwn

Aelodaeth Actif

Ar gyfer pwy mae'r aelodaeth hon?

Mae'r aelodaeth hon ar gyfer oedolion 60+, myfyrwyr (20+ oed) neu ag anabledd.

Pam ymuno ag aelodaeth Actif?

Dyma ein pecyn aelodaeth eithaf. Os ydych chi am gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys nofio, defnyddio'r gampfa a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff am y gwerth gorau, yna dyma'r aelodaeth i chi.

Sut ydw i'n ymuno?

Cliciwch ar y ddolen Ymunwch Nawr!

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda ni, yna crëwch gyfrif a fydd yn caniatáu ichi archebu gweithgareddau.

 

Os ydych yn fyfyriwr neu ag anabledd bydd angen i chi ymuno â'r aelodaeth hon yn eich canolfan hamdden leol. Byddwn yn gofyn am weld prawf cymhwysedd i ymuno â'r aelodaeth hon, gallai hyn fod yn gerdyn myfyriwr neu'n debyg.

Sut gallaf dalu am yr aelodaeth hon?

Gallwch dalu am yr aelodaeth hon trwy ddebyd uniongyrchol misol neu fel ffi flynyddol unwaith ac am byth. Os ydych yn talu'n flynyddol mae gostyngiad bach.

Mae’r aelodaeth hon hefyd ar gael fel cynnig talu wrth fynd o fis heb unrhyw dymor lleiaf o dan ein hopsiynau eraill.

A oes isafswm tymor?

Mae isafswm tymor o 3 mis yn berthnasol. Caiff myfyrwyr eu heithrio o'r isafswm tymor.

 

 

Os ydych yn fyfyriwr, mae'r aelodaeth hon hefyd ar gael fel cynnig un mis.

 

 

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi fod wedi cwblhau kickstart ( anwytho ) cyn y gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd.

Ffoniwch eich canolfan agosaf a siaradwch ag un o'r tîm i archebu eich kickstart.

Cymharwch

Ystafell Ffitrwydd (Mae angen anwythiad cyn ei ddefnyddio)
Nofio
Gwersi Nofio (Oedolion yn unig)
Dosbarthiadau Ymarfer Grwp
Ystafell Iechyd (rhaid i oedolyn fod yng nghwmni pobl dan 16 oed)
Dringo (Sesiynau agored yn unig)
Bowlio Dan do
Chwaraeon Racquet (ac eithrio tenis)
Hwb Digidol
Cost

Oedolyn

Actif Unigolyn

£29.90
Debyd Uniongyrchol Misol
£32.00 o Ebrill 1af
Cyfnod lleiaf o 3 mis yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£29.90

Consesiwn

Actif Unigolyn

£24.50
Debyd Uniongyrchol Misol
£27.00 o Ebrill 1af
Gall cyfnod lleiaf fod yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£24.50

Arddegau

Actif Unigolyn

£21.70
Debyd Uniongyrchol Misol
£23.50 o Ebrill 1af
Dim isafswm tymor
Mwy o wybodaeth
£21.70

Pasbort i Hamdden

Actif Unigolyn

£12.00
Dim isafswm tymor
£13.40 o Ebrill 1af
Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£12.00

Aelwydydd

Actif

£62.00
Debyd Uniongyrchol misol
£68.00 o Ebrill 1af
Cyfnod lleiaf o 3 mis yn berthnasol
Mwy o wybodaeth
£62.00