> national fitness day logo black writing with the words national fitness day one on top of the other

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol!

Dyddiad Teitl

18th Sep 2024

Time Title

6AM - 10PM

Symudwch ar y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol!

Marciwch eich calendrau ar gyfer 18 Medi 2024 – mae’r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ar y gorwel! Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle perffaith i symud, blaenoriaethu eich iechyd, ac ymuno â dathliad cenedlaethol o ffitrwydd a llesiant.

Beth yw’r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol?
Mae’r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol wedi'i neilltuo i annog pobl o bob oed, cefndir, a lefel o ffitrwydd i fyw bywyd mwy egnïol. P'un a ydych chi'n athletwr profiadol neu'n dechrau ar eich taith ffitrwydd, mae'r diwrnod hwn yn ymwneud â chymryd rhan a dod o hyd i hapusrwydd wrth symud.

Pam ei fod yn bwysig
Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn hanfodol ar gyfer cynnal iechyd da. Mae'n rhoi hwb i lefelau egni, yn lleihau straen, ac yn gwella llesiant yn gyffredinol. Yn ein hamgylcheddau gwaith cyflym, mae'n hawdd i ni anwybyddu pwysigrwydd ymarfer corff. Mae’r Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn eich atgoffa i gymryd cam yn ôl, canolbwyntio ar eich iechyd, ac integreiddio mwy o symudiad i'ch trefn ddyddiol.

 

Sut gallwch chi gymryd rhan
Mae yna lawer o ffyrdd i fod yn egnïol ar y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol. Dyma rai syniadau i'ch rhoi chi ar ben ffordd:

  • Ewch am dro neu am reid ar feic: Gall mynd am dro cyflym neu reid ar feic yn ystod eich egwyl amser cinio wneud rhyfeddodau i'ch lefelau o egni. Gwahoddwch gydweithiwr i ymuno â chi am ychydig o awyr iach a newid amgylchedd.
  • Ymarferion wrth eich desg: Os ydych chi'n brin o amser, rhowch gynnig ar rai ymarferion wrth eich desg. Gellir gwneud estyniadau syml, cyrcydiadau mewn cadair, neu godiadau coesau heb symud o’ch gweithfan.

 

O amser agor tan amser cau ar 18 Medi, bydd aelodau o'r tîm wrth law i ddangos ein cyfleusterau i chi ac i'ch helpu chi i fod ar y trywydd iawn.

 

Bargen Aelodaeth

Mae gennym gynnig gwych i ddweud wrthych amdano …

Cymerwch Aelodaeth Unigolyn Egnïol neu Aelodaeth Aelwyd gyda ni ar 18 Medi, a chael cost aelodaeth sefydlog am 12 mis*

Ddim yn barod i ymrwymo ar y diwrnod? Bydd gennym Tocyn 7 Diwrnod yn barod i chi ei ddefnyddio tra byddwch yn penderfynu. 

*Aelodau Newydd yn Unig

 

Gwobrau i'w hennill

Bydd pob safle hefyd yn cynnal Raffl Gwobrau i'r rhai sy'n cymryd Aelodaeth gyda ni ar y diwrnod, neu cyn i'ch Tocyn 7 Diwrnod ddod i ben.  

  • 1 Mis o Aelodaeth Am Ddim
  • Sesiwn 1:1 am ddim
  • £10 Taleb siop nofio  (Rhaid ei hawlio a'i ddefnyddio yn ein Canolfannau)