Dylech nodi'r telerau ac amodau canlynol sy'n gysylltiedig â'ch archeb, ynghyd â rhai newidiadau rydym wedi'u gwneud i sicrhau bod gwersi nofio'n ddiogel ac yn dilyn canllawiau cyfredol y Llywodraeth ynghylch COVID-19.

  • Os yw eich plentyn neu unrhyw aelod o'ch aelwyd wedi dangos neu wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un â symptomau COVID-19 yn ystod y saith diwrnod diwethaf, peidiwch â dod i'ch gwers. 
  • O ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19, gofynnwn i chi sicrhau mai dim ond un oedolyn sy'n dod gyda phlentyn i'w wers nofio. 
  • Sicrhewch fod eich plentyn wedi defnyddio'r toiled ac wedi cael cawod cyn dod i'r ganolfan. Mae toiledau ar gael yn y ganolfan, ond nid oes cyfleusterau cawod ar gael ar hyn o bryd. 
  • Peidiwch â chyrraedd mwy na phum munud cyn dechrau'r wers. 
  • Ni chewch fynychu'ch gwers os byddwch yn cyrraedd ar ôl amser dechrau eich gwers. 
  • Rhaid i bawb sy'n 11 oed a throsodd wisgo masg bob amser yn y ganolfan. 
  • Rhaid cadw pellter cymdeithasol bob amser yn y ganolfan. Rhaid dilyn y systemau unffordd. 
  • Caniateir i bob oedolyn sy'n gyfrifol am blentyn aros yn yr adeilad, a chaiff y rhai sy'n gofalu am blant dan 8 oed flaenoriaeth i ddefnyddio'r ardaloedd gwylio lle y bo'n bosibl. Os oes gennych blentyn 8 oed neu drosodd, rydym yn eich annog i aros yn eich car os yw'n bosibl. 
  • Efallai y byddwn yn gofyn i rieni aros mewn ardal ddynodedig o'r ganolfan (mae'n bosibl na fydd modd gweld y wers o'r ardal hon). 
  • Rydym yn eich annog i beidio â dod â phlant eraill i'r ganolfan pan fydd plentyn yn cymryd rhan mewn gwers. Os na allwch osgoi hyn, bydd angen i chi gysylltu â'r ganolfan i sicrhau na fydd mwy nag uchafswm nifer y bobl a ganiateir yn bresennol yn yr adeilad. 
  • Os bydd yn rhaid i chi ddod â brodyr a chwiorydd y plentyn, yna mae'n hollbwysig eu bod yn cadw ar wahân i bawb arall yn y ganolfan. Yr oedolyn cyfrifol fydd yn gyfrifol am sicrhau hyn. Yn wahanol i leoliadau ysgol, anogir plant o bob oedran i gadw pellter cymdeithasol mewn canolfannau hamdden.
  • Dylech sicrhau bod eich plentyn yn barod i nofio, a'i fod yn gwisgo ei wisg nofio o dan ei ddillad neu dywel. Bydd modd i chi dynnu dillad neu dywel eich plentyn wrth ochr y pwll nofio a rhoi ei eiddo mewn blwch storio a ddarperir. 
  • Rydym yn argymell y dylai pob plentyn wisgo dillad llac sy'n hawdd eu diosg a'u hail-wisgo'n gyflym cyn ac ar ôl y wers.
  • Os bydd cyfleusterau ar gael, bydd modd i chi wisgo eich plentyn eto ar ôl y wers yn yr ystafelloedd newid. Dylech wneud hyn yn gyflym ac yna adael gan ddefnyddio'r allanfa ddynodedig. 
  • Er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol, mae'n bosibl y bydd yr ystafelloedd newid yn rhai neillryw. 
  • Os na fydd ystafelloedd newid ar gael, bydd angen i'r plant sychu eu hunain a gwisgo wrth ochr y pwll nofio.
  • Efallai na fydd modd i chi dynnu gwisg nofio eich plentyn ar ôl y wers o ganlyniad i gyfyngiadau diogelu. 
  • Peidiwch â gwisgo esgidiau awyr agored wrth ochr y pwll nofio. 
  • Ni fydd modd i athrawon helpu'r plant i osod eu gogls yn iawn, felly dylech sicrhau bod eich plentyn yn gallu gwneud hyn ei hun os bydd am eu gwisgo. 
  • Darperir hylif gwrthfacterol a deunyddiau glanhau i chi eu defnyddio yn yr ardaloedd aros, ac mae hylif diheintio dwylo ar gael ym mhob rhan o'r ganolfan. 
  • Caiff pob gwers nofio ei haddysgu o ochr y pwll nofio er mwyn cadw pellter cymdeithasol. Darperir cymhorthion hynofedd sefydlog, ond mae croeso i chi ddod â'ch rhai eich hun os byddwch am wneud hynny. Mae cymhorthion hynofedd sefydlog addas yn cynnwys disgiau breichiau, bandiau breichiau a 'puddle jumpers', ac ni ddylent fod yn hawdd i blant eu tynnu.
  • Bydd ein canolfannau hamdden unigol yn gweithio'n wahanol i'w gilydd felly cysylltwch â nhw i gael gweithdrefnau eich safle.

 

Diolch am eich cymorth i'n helpu i weithredu mewn modd diogel a rheoledig sy'n ein galluogi i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gwerthfawrogi bod pethau ychydig yn wahanol yn ystod y cyfnod hwn, ac rydym yn gwneud ein gorau i alluogi ein cwsmeriaid i ddychwelyd i'w gweithgareddau yn ddiogel. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.