Mae tîm Sir Benfro y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn brysur yn cadw mewn cysylltiad â'n cleientiaid cyfredol. Mae pob aelod o staff yn cael cyswllt wythnosol er mwyn helpu i gadw cleientiaid yn egnïol gartref. Yma fe welwch nifer o raglenni, fideos a dogfennau gwybodaeth i'ch helpu i gadw'n ddiogel, yn egnïol ac yn iach tra na allwch ddod i mewn i'r canolfannau.Mae Hamdden Sir Benfro, NERS, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd camau tuag at gynllunio sut olwg fydd ar y cynllun wrth i bethau ddechrau datblygu. Cyn bo hir, bydd arolwg ar gael i chi ei lenwi, a fydd yn ein helpu i ddeall ym mha ffordd y gallwn wneud i chi deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel pan fyddwch yn dychwelyd i'r canolfannau. Byddwn yn edrych ar lawer o opsiynau; a pha un a fydd hynny'n ymarfer rhithwir gartref neu mewn canolfannau, ein prif flaenoriaeth fydd sicrhau diogelwch ein cleientiaid. Fideos :Ymarfer cylchol gartref gyda Bevis (Cymraeg yn unig)Ymarfer cylchol gartref 2 gyda Bevis (Cymraeg yn unig)Ymarferion symudedd ysgafn gyda BevisGofal cefn gyda Bevis (Dwyieithog) Mwy o Wybodaeth:Cadw’n Heini gyda chlefyd ParkinsonRhaglen ymarferion cartref otago I ddatblygu cryfder a chydbwyseddCydbwysedd osgo, sadrwydd a chryfder – rhaglen ymarfer yn y cartref