Yn Hamdden Sir Benfro, rydym yn hynod ffodus i gael cydweithwyr y mae eu hymroddiad, eu hymrwymiad a'u hangerdd wedi helpu i lunio ein canolfannau a'n cymunedau dros nifer o ddegawdau.
Eleni, rydym yn falch o gydnabod pum unigolyn rhyfeddol y mae eu gwasanaeth cyfunol yn cynrychioli ymhell dros 200 mlynedd o ymrwymiad i Hamdden Sir Benfro. O gerrig milltir hir wasanaeth i ymddeoliadau haeddiannol, mae pob un ohonynt wedi cael effaith barhaol ar gydweithwyr, cwsmeriaid a'r cymunedau y maent wedi'u gwasanaethu.
Tra rydym yn dathlu eu cyflawniadau, rydym hefyd am achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am bopeth y maent wedi'i gyfrannu drwy gydol eu gyrfaoedd.
Tracy
Eleni, rydym yn ffarwelio â Tracy wrth iddi ddechrau ei hymddeoliad haeddiannol ar ôl bron i 40 mlynedd o wasanaeth ymroddedig yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau.
Drwy gydol ei gyrfa, mae Tracy wedi bod yn aelod gwerthfawr ac uchel ei pharch o'r tîm, gan helpu i greu'r amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar y mae cwsmeriaid wedi dod i'w adnabod a'i werthfawrogi. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cefnogi cydweithwyr dirifedi, wedi meithrin perthnasoedd parhaol â chwsmeriaid ac wedi chwarae rhan bwysig yn llwyddiant parhaus y ganolfan.
I lawer o aelodau'r gymuned leol, mae Tracy wedi bod yn wyneb cyfarwydd ac yn ffynhonnell gymorth y gellir ymddiried ynddi ers degawdau. Mae ei phroffesiynoldeb, ei hymrwymiad, a'i rhadlonrwydd wedi gadael argraff barhaol ar bawb y mae wedi gweithio gyda nhw.
Y tu allan i'r ganolfan, mae Tracy hefyd wedi dangos ymrwymiad hirdymor i bêl-droed leol, gan ddangos yr un angerdd dros gymuned, cyfranogiad, a gwaith tîm y mae wedi'i ddwyn i'w rôl drwy gydol ei gyrfa.
Wrth iddi ddechrau’r bennod newydd gyffrous hon, hoffem ddiolch i Tracy am ei chyfraniad rhagorol a dymuno blynyddoedd lawer o hapusrwydd wrth iddi fwynhau ei hymddeoliad, cwmni ei theulu a’i ffrindiau ac anturiaethau newydd.
Ryan
Rydym hefyd yn falch o gydnabod Ryan, sy'n ymddeol ar ôl mwy na 50 mlynedd o wasanaeth ymroddedig yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau.
Mae treulio dros hanner canrif yn gwasanaethu'r gymuned leol yn gyflawniad gwirioneddol nodedig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Ryan wedi gweld newidiadau a datblygiadau sylweddol yn y ganolfan, ac mae wedi parhau i fod yn ffynhonnell gyson o wybodaeth, profiad a chefnogaeth.
Bydd llawer yn cofio talent Ryan fel nofiwr ifanc – angerdd a helpodd i lunio ei gysylltiad â gwasanaethau hamdden a'r gymuned nofio. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi rhannu'r brwdfrydedd hwnnw â chwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.
Y tu allan i'r gwaith, mae Ryan hefyd yn adnabyddus am ei gariad at reidiau cyflym a pharciau thema, a byddai llawer o'i gydweithwyr yn clywed straeon yn rheolaidd am ei anturiaethau diweddaraf a'i hoff reidiau. Mae’r angerdd hwn yn adlewyrchu'r un ymdeimlad o frwdfrydedd, egni a mwynhad o fywyd ag y mae wedi'i ddwyn i'w waith drwy gydol ei yrfa.
Mae ei ymroddiad i gwsmeriaid a chydweithwyr wedi helpu i lunio'r ganolfan yn gyfleuster sy'n canolbwyntio ar y gymuned, fel y mae heddiw. Mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi elwa o'i ymrwymiad, ei broffesiynoldeb a'i barodrwydd i fynd y tu hwnt i'r disgwyl.
Mae cyfraniad Ryan yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r blynyddoedd o wasanaeth y mae wedi'u cronni. Mae wedi bod yn rhan annatod o deulu Canolfan Hamdden Aberdaugleddau, ac mae’n gadael etifeddiaeth ar ei ôl a fydd yn cael ei chofio am flynyddoedd lawer i ddod.
Diolchwn i Ryan am ei ymrwymiad eithriadol ac rydym yn dymuno ymddeoliad hir, iach a hapus iddo.
Glyn
Ar ôl 49 mlynedd anhygoel yng Nghanolfan Hamdden Penfro, mae'r amser wedi cyrraedd o'r diwedd i ddymuno ymddeoliad hapus a haeddiannol iawn i Glyn.
Mae Glyn wedi bod yn rhan enfawr o deulu Canolfan Hamdden Penfro ers bron i bum degawd, gan ymroi o’i amser, ei wybodaeth a'i angerdd i'r ganolfan a'r gymuned leol.
Mae ei gyfraniad at ddatblygu nofio wedi bod yn enfawr. Dros y blynyddoedd, mae Glyn wedi dysgu nofio i nifer dirifedi o blant ac oedolion, gan helpu cenedlaethau o bobl i fagu hyder yn y dŵr a datblygu sgil sy’n gallu achub bywydau. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi chwarae rhan allweddol wrth hyfforddi achubwyr bywyd, gan drosglwyddo ei wybodaeth, ei brofiad a'i safonau uchel i gydweithwyr sydd wedi mynd ymlaen i wasanaethu cymunedau ledled Sir Benfro.
Dros y blynyddoedd, mae Glyn wedi gweithio ochr yn ochr â nifer dirifedi o gydweithwyr, wedi cefnogi cenedlaethau o gwsmeriaid ac wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o ddatblygu Canolfan Hamdden Penfro fel y mae hi heddiw. Mae ei ymrwymiad, ei broffesiynoldeb, ei hiwmor a’i barodrwydd i helpu eraill wedi ennill iddo barch ac edmygedd pawb sydd wedi cael y pleser o weithio gydag ef.
I'r rhai sydd wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi gweithio ochr yn ochr â Glyn, mae ei gyfraniad yn mynd ymhell y tu hwnt i'r 49 mlynedd y mae wedi'u treulio yn y ganolfan. Mae wedi bod yn gydweithiwr, mentor, ffrind a model rôl i lawer, a phob amser yn barod i rannu ei brofiad a rhoi help llaw.
Wrth i Glyn ddechrau ei ymddeoliad, hoffem ddiolch iddo am ei wasanaeth a'i ymroddiad rhyfeddol. Bydd colled fawr ar ei ôl, ond ni fydd ei gyfraniad i Ganolfan Hamdden Penfro byth yn cael ei anghofio.
Mwynhewch eich ymddeoliad, Glyn. Rydych chi’n sicr yn ei haeddu.
Gaynor
Rydym wrth ein bodd yn dathlu Gaynor, a gafodd wahoddiad i fynychu’r Gwobrau Gwasanaeth Hir i gydnabod mwy na 40 mlynedd o wasanaeth ymroddedig gyda Pembrokeshire Leisure.
Yn adnabyddus i lawer fel athrawes nofio a hyfforddwraig dosbarthiadau ffitrwydd rhagorol, mae Gaynor wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl i fagu hyder yn y dŵr, gwella eu llesiant a mwynhau bod yn egnïol. Mae ei brwdfrydedd, ei hanogaeth a'i hangerdd dros addysgu wedi cael effaith gadarnhaol ar gwsmeriaid dirifedi drwy gydol ei gyrfa.
Mae ei chyfraniad rhagorol i addysgu nofio hefyd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol. Yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd Gaynor yr anrhydedd o ymweld â Phalas Buckingham i gydnabod ei gwasanaeth eithriadol i addysg nofio – cyflawniad yr oedd pawb yn Hamdden Sir Benfro yn falch o'i ddathlu ochr yn ochr â hi.
Mae ymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad Gaynor i helpu eraill yn ei gwneud hi'n dderbynnydd gwirioneddol haeddiannol o'r gydnabyddiaeth hon, ac rydym yn ei llongyfarch ar gyrraedd y garreg filltir nodedig hon.
James "Wally" Walters
Mae’n bleser gennym gydnabod James Walters, a adnabyddir gan gydweithwyr, cwsmeriaid a ffrindiau fel "Wally", am fwy na 41 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i Hamdden Sir Benfro.
Yn ystod ei yrfa, mae James wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau gan gynnwys achubwr bywyd, hyfforddwr nofio, hyfforddwr sboncen, rheolwr dyletswydd ac, am y 30 mlynedd diwethaf, rheolwr y ganolfan. Er ei fod yn gysylltiedig yn bennaf â Chanolfan Hamdden Aberdaugleddau, treuliodd nifer o flynyddoedd hefyd fel rheolwr yng Nghanolfan Hamdden Penfro, gan wneud cyfraniad sylweddol at wasanaethau hamdden ledled y sir.
Mae James, efallai, yr un mor adnabyddus am ei angerdd dros sboncen, ac am ei dalent yn ei chwarae. Wedi'i gydnabod yn eang fel un o chwaraewyr sboncen gorau Sir Benfro dros nifer o flynyddoedd, mae wedi cynrychioli'r gamp gyda rhagoriaeth ac wedi ysbrydoli nifer dirifedi o bobl i gymryd rhan ynddi. Mae ei ymrwymiad i sboncen yn adlewyrchu'r ymroddiad a'r proffesiynoldeb y mae wedi'u dangos drwy gydol ei yrfa.
Fel Ryan, treuliodd James ran o'i yrfa gynnar yn gweithio yn hen bwll awyr agored Rath ac mae ganddo lawer o atgofion a straeon melys o'r cyfnod hwnnw. Mae'r straeon hynny, a'r ffrindiau a wnaeth dros nifer o flynyddoedd, yn ein hatgoffa o'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd wedi bodoli erioed o fewn Hamdden Sir Benfro.
Ochr yn ochr â Ryan, Tracy a Gaynor, mae James wedi bod yn un o wynebau mwyaf adnabyddus Canolfan Hamdden Aberdaugleddau ers cenhedlaeth. Gyda’i gilydd, maent wedi bod yn dyst i ddatblygiad y ganolfan, wedi'i chefnogi a'i llunio drwy bob ychwanegiad a gwelliant mawr – o'r pwll nofio gwreiddiol i'r neuadd chwaraeon, y stiwdio ddawns, y neuadd fowlio a'r ystafell ffitrwydd. Mae eu gwybodaeth a'u profiad cyfunol yn darparu hanes byw o ddatblygiad y ganolfan a'i phwysigrwydd i'r gymuned leol.
Ac eto, er bod cyfleusterau ac adeiladau yn bwysig, dim ond rhan o'r stori ydyn nhw. Mae llwyddiant Canolfan Hamdden Aberdaugleddau, yn y pen draw, wedi’i adeiladu ar ymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad pobl fel James a’i gydweithwyr. Drwy ei arweinyddiaeth, ei angerdd a'i ymrwymiad diysgog i wasanaeth cyhoeddus, mae James wedi dylanwadu ar fywydau nifer dirifedi o drigolion, clybiau chwaraeon, sefydliadau cymunedol a theuluoedd ar draws sawl cenhedlaeth.
Mae ei gyfraniad i Hamdden Sir Benfro ac i'r gymuned ehangach yn eithriadol, ac mae ei hir wasanaeth yn dyst i'r gwahaniaeth y gall un unigolyn ymroddedig ei wneud dros oes.
Diolch yn fawr
Gyda'i gilydd, mae James, Tracy, Ryan, Glyn a Gaynor yn cynrychioli'r gorau o Hamdden Sir Benfro. Mae eu blynyddoedd cyfunol o wasanaeth yn adlewyrchu ymrwymiad eithriadol i'n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'n cymunedau.
Rhyngddynt, maen nhw wedi dysgu cenedlaethau o bobl sut i nofio, hyfforddi achubwyr bywyd, rheoli cyfleusterau, datblygu chwaraeon, cefnogi clybiau, ysbrydoli ffyrdd o fyw iachach ac wedi helpu i greu mannau croesawgar yng nghalon ein cymunedau. Maen nhw wedi dod ag angerdd dros chwaraeon, y gymuned a phobl gyda nhw – boed hynny drwy lwyddiannau James mewn sboncen, cariad Ryan at nofio a reidiau cyflym, ymrwymiad Tracy i bêl-droed lleol, ymroddiad Glyn i ddysgu nofio a datblygu achubwyr bywyd, neu waith ysbrydoledig Gaynor ym maes nofio a ffitrwydd.
Maent wedi gweld trawsnewidiad ein canolfannau hamdden dros nifer o ddegawdau, ond yn bwysicach fyth maen nhw wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r canolfannau i fod yr hyn yr ydyn nhw heddiw. Maent wedi gweld cyfleusterau'n cael eu hychwanegu, eu hehangu a'u moderneiddio, gan helpu canolfannau i esblygu i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n newid.
Mae modd ehangu adeiladau, uwchraddio cyfleusterau a gall rhaglenni esblygu, ond pobl sy'n gwneud canolfan hamdden yn llwyddiannus mewn gwirionedd. I drigolion dirifedi ledled Sir Benfro, mae'r unigolion hyn wedi bod yn wynebau cyfarwydd, yn fentoriaid i ymddiried ynddyn nhw, yn gydweithwyr ymroddedig ac yn ffrindiau gwerthfawr. Drwy eu gwasanaeth, maen nhw wedi cyffwrdd â bywydau sawl cenhedlaeth o deuluoedd lleol ac wedi helpu i greu atgofion parhaol sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i furiau ein canolfannau hamdden.
Ar ran pawb yn Hamdden Sir Benfro, hoffem ddiolch yn ddiffuant i chi a llongyfarch pob un ohonoch. Mae eich ymroddiad, eich cyfeillgarwch a'ch cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth parhaol, a dymunwn y gorau i chi gyd ar gyfer y dyfodol.
Diolch am eich gwasanaeth rhyfeddol.
Wedi cael eich ysbrydoli? Cliciwch ar y ddolen isod