Mae gweithio i Hamdden Sir Benfro yn dod ag ystod gynhwysfawr o fuddion i weithwyr sydd wedi’u cynllunio i gynnal a gwella lles ein staff. Mae gweithwyr yn mwynhau cyflogau cystadleuol, lwfansau gwyliau hael, a mynediad at gynlluniau pensiwn rhagorol. Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol, gan gynnig hyfforddiant parhaus a chyfleoedd dilyniant gyrfa i helpu aelodau ein tîm i gyrraedd eu llawn botensial. Yn ogystal â’r manteision ariannol a phroffesiynol hyn, mae ein staff yn elwa ar fynediad am ddim neu am bris gostyngol i’n cyfleusterau hamdden, gan hybu ffordd iach a heini o fyw. Mae Hamdden Sir Benfro wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol lle mae pob gweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi. Ymunwch â’n tîm a phrofi buddion gwerth chweil gyrfa sy’n ymroddedig i wella iechyd a lles cymunedol.
Cymerwch gip ar y buddion sydd ar gael: