Mae Pentref Chwaraeon Sir Benfro yn gyfleuster newydd sbon sy’n gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd NEWYDD Hwlffordd. Y ganolfan hon yw’r un ddiweddaraf i gael ei chynnal gan Hamdden Sir Benfro ac rydym yn falch iawn o roi gwybodaeth i chi amdani a’ch tywys o’i chwmpas.
Mae’n hawdd archebu trwy’r ap neu ar-lein.
Os hoffech archebu wrth gyrraedd, efallai y bydd angen i chi aros.
Y Trac Rhedeg
6 lôn, arwyneb rhedeg polymerig 400m, llifoleuadau, ac 8 lôn ar yr hyd olaf.
Mae’n berffaith ar gyfer rhedwyr profiadol a newydd.
Maes Astroturf ( ATP )
Maes astro maint llawn wedi’i adnewyddu’n llwyr a agorodd unwaith eto ym mis Tachwedd 2022. Ar gael i’w archebu ar gyfer y chwaraeon canlynol: Hoci, a phêl-droed.
Llifoleuadau LED sy’n arbed ynni er mwyn chwarae ar hyd y flwyddyn!
Y Neuadd Chwaraeon
Neuadd chwaraeon maint dwbl, gydag 8 cwrt ar gael. Mae’r neuadd wedi’i rhannu yn y canol gyda byrddau adlamu a rhwyd y gellir ei thynnu’n ôl.
Ar gael i’w harchebu ar gyfer y chwaraeon canlynol: – Badminton, cylch pêl-fasged, ½ cwrt, cwrt llawn, pêl foli, 5 bob ochr (criced dan do o bosibl – defnyddio’r ddwy neuadd) – Mae’n rhaid i bob archeb gan glybiau fynd at: [javascript protected email address]
Ein maes 4G
Mae’r Arwyneb Chwarae Rygbi/Pêl-droed 4G hwn, a’r cyntaf o’i fath yn Sir Benfro, yn arwyneb chwarae maint llawn a gymeradwywyd gan Undeb Rygbi Cymru/FIFA, gyda llifoleuadau a marciau ar gyfer 2 ½ o feysydd (wedi’i yswirio ar gyfer taclo rygbi). Esgidiau gofynnol (DIM LLAFNAU.)
Cyfleusterau newid
Mae cyfleusterau newid ar gael gyda’r nos yn unig.
Cyfleusterau newid a chawodydd/tai bach ochr sych a chyfleusterau newid timau (y tu allan) gyda chawodydd/tai bach
Parcio
Lleoedd newid/parcio i’r anabl ac 16 o fannau gwefru ar gyfer ceir trydan
Ar gyfer y Maes 4G, defnyddiwch y maes parcio archifau ( What 3 words: jazz.transit.drums )
Ar gyfer y Neuadd Chwaraeon a’r Trac, defnyddiwch y brif fynedfa ar yr A40 (ychydig oddi ar gylchfan Cartlett) sa61 2nx ( What 3 words: digs.grass.thin )
Lle Digwyddiad/Ystafell Ddosbarth
Mae’r cyfleuster newydd yn darparu ystafell ddosbarth newydd wych a fyddai’n berffaith i gynnal ochr theori cwrs. Sylwch y gellir ei defnyddio gyda’r nos ac ar y penwythnos yn unig, a bod rhaid archebu o flaen llaw. Cysylltwch â: [javascript protected email address]
Amserau Agor:
Dydd Llun 5.00pm – 9.00pm ( ar gael tan 10.00pm ar gyfer archebion bloc )
Dydd Mawrth 5.00pm – 9.00pm ( ar gael tan 10.00pm ar gyfer archebion bloc)
Dydd Mercher 5.00pm – 9.00pm ( ar gael tan 10.00pm ar gyfer archebion bloc)
Dydd Iau 5.00pm – 9.00pm ( ar gael tan 10.00pm ar gyfer archebion bloc)
Dydd Gwener 5.00pm – 9.00pm ( ar gael tan 10.00pm ar gyfer archebion bloc)
Dydd Sadwrn 9.00am – 4.00pm
Dydd Sul 9.00am – 9.00pm
Cyfeiriad:
Pentref Chwaraeon Sir Benfro
57 Coronation Avenue, Hwlffordd SA61 1EP (mynedfa Mike’s Bikes)