> Canolfan Hamdden Hwlffordd

Canolfan Hamdden Hwlffordd

St Thomas Green
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1QX

Dilynwch y system un ffordd i St Thomas’ Green Hwlffordd. 

Cafodd ein cyfleuster modern ei agor yn 2009, ers hynny rydym wedi croesawu ymwelwyr ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. 

What 3 Words: cannwyll.rhestra.arwyddaf

Mae ein canolfan yn cynnig:

 

 

Y Gampfa

Mae’r gampfa â 56 o safleoedd ymarfer sydd wedi'u rhannu dros ddwy lefel. Mae’n cynnig offer cardio, pwysau rhydd ac offer ymwrthedd.

Os nad ydych chi wedi defnyddio ein campfeydd o'r blaen, mae cwpl o bethau y gallwch chi eu gwneud.

Gallwch chi naill ai gael anwythiad gyda'r tîm. I drefnu amser ac i archebu, gallwch chi naill ai lawrlwytho ein hap, cofrestru, archebu a thalu neu e-bostio: haverfordwestleisurecentre@pembrokeshire.gov.uk a siarad gyda'r tîm.

Hoffech chi ddefnyddio ein campfa ond dim ond am gyfnod byr rydych chi yma? Dim problem, gallwch gofrestru ar gyfer ein Mynediad Campfa i Ymwelwyr, sy'n eich galluogi i ddefnyddio ein campfeydd am gyfnod o 14 diwrnod.

Pwll Nofio

Mae ein cyfleusterau nofio yn addas ar gyfer pawb yn y teulu. 

Pwll 25m lefel cystadleuaeth 8 lôn yw'r prif bwll. Mae'r pwll hwn wedi'i rannu'n ddau sy'n caniatáu i un ochr gael ei ddefnyddio ar gyfer galluoedd gwahanol. Mae dyfnder y pwll yn amrywio o 1m i 2m.

Mae 4 lôn yn ein pwll 2m. Chi sy'n dewis eich cyflymder yn y lôn briodol. Mae'r pwll hwn ar ddyfnder cyson o 2m.

Mae dau bwll i ddysgwyr, mae'r ddau'n wych ar gyfer eich nofwyr bach. Mae’r pyllau yn cael eu cadw ar dymheredd ychydig yn gynhesach. Mae'r dyfnderoedd yn amrywio o 0m i 1.2m.

Dosbarthiadau

Rydym yn cynnig llawer o weithgareddau yn ein dosbarthiadau grŵp ymarfer corff. O ioga i HIIT. Bydd ein tîm cyfarwyddo yn eich arwain ac yn eich ysgogi. Mae ymarfer corff grŵp yn ffordd wych o'ch cadw ar y trywydd iawn a hyfforddi gyda ffrind hefyd.

Y WAL DDRINGO

Cafodd ein wal lefel cystadlu ei hagor yn 2013. 

Rydym yn croesawu pob dringwr, newydd a phrofiadol.

Os ydych chi am ddefnyddio ein wal heb oruchwyliaeth, bydd angen i chi gwblhau cwrs neu brawf cymhwysedd.

Rydym hefyd yn cynnal llawer o ddosbarthiadau dringo i blant 3 oed a throsodd. I ddarganfod mwy, cliciwch y ddolen hon.

Partïon

Gan eich bod wedi dewis eich parti, erbyn hyn, mae'n bryd ei drefnu! Ffoniwch y ganolfan ar 01437 776676 neu e-bostiwch: haverfordwestleisurecentre@pembrokeshire.gov.uk i ddechrau'r broses.

Sylwer os ydych yn trefnu parti offer pwmpiadwy yn y pwll nofio, mae'n rhaid i chi sicrhau bod rhieni/gofalwyr pob un fydd yn bresennol yn cael y wybodaeth bwysig ganlynol: 

Mae'r parti yn digwydd mewn dŵr dwfn

Rhaid i bawb sy'n bresennol fod yn hyderus mewn dŵr dwfn 

Os na all y rheiny sy’n bresennol ddangos y sgiliau hyn, efallai na fyddant yn gallu cymryd rhan yn y parti

Ewch ar daith ddigidol o'n cyfleuster