Eich cyfrifoldeb chi yw’ch iechyd chi. Mae rheolwyr a staff y sefydliad hwn yn ymrwymedig i’ch helpu i ddal ar bob cyfle i fwynhau’r cyfleusterau a gynigir gennym. Gyda hyn mewn golwg, yr ydym wedi ystyried yn ofalus beth allwn ni ddisgwyl oddi wrth ein gilydd.
Ein hymrwymiad i chi
1. Fe barchwn eich penderfyniadau personol, a chaniatáu i chi wneud eich penderfyniadau eich hunain parthed pa ymarferion y gallwch chi eu cyflawni. Sut bynnag, gofynnwn i chi beidio ag ymarfer y tuhwnt i’ch galluoedd personol yn eich barn chi.
2. Fe wnawn bob ymdrech rhesymol i sicrhau bod ein hoffer a’n cyfleusterau mewn cyflwr diogel er mwyn i chi eu defnyddio a’u mwynhau.
3. Fe gymerwn yr holl gamau rhesymol i sicrhau bod ein staff yn gymwys ar gyfer safonau’r diwydiant ffitrwydd fel y’u tanlinellir gan Gofrestr Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol.
4. Os dywedwch chi wrthym am anabledd sy’n anfanteisiol i chi gael mynediad i’n hoffer a’n cyfleusterau, fe ystyriwn pa addasiadau, os bydd angen rhai, sy’n rhesymol i ni eu gwneud.
Eich ymrwymiad chi i ni
1. Ni ddylech ymarfer y tu hwnt i’ch gallu personol. Os ydych chi’n gwybod neu os oes gennych gonsyrn ynglŷn â chyflwr meddygol allai ymyrryd â chi’n ymarfer yn ddiogel, cyn i chi ddefnyddio ein hoffer a’n cyfleusterau fe ddylech chi gael cyngor oddi wrth weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol a dilyn y cyngor hwnnw.
2. Fe ddylech chi fod yn ymwybodol o unrhyw reolau a chyfarwyddiadau, yn cynnwys hysbysiadau rhybudd. Mae gan ymarfer ei beryglon ei hun. Ni ddylech chi gyflawni unrhyw weithgareddau y dywedwyd wrthych eu bod yn anaddas i chi.
3. Fe ddylech chi roi gwybod i ni’n syth os ydych chi’n teimlo’n sâl wrth ddefnyddio ein hoffer neu gyfleusterau. Nid yw’n staff yn feddygon cymwys, ond fe fydd person sy wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf ar gael.
4. Os oes gennych anabledd, rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau rhesymol er mwyn caniatáu i chi ymarfer yn ddiogel.
Arweiniad yn unig ydyw’r datganiad hwn. Nid yw’n gytundeb cyfreithiol-rwym rhyngoch chi a ni ac nid yw’n creu unrhyw oblygiadau y mae’n rhaid i chi neu ni gwrdd â nhw.
© 2009 EIDO Healthcare Limited