Aelodaeth Hyfforddiant Personol - TELERAU AC AMODAU
Mae'r telerau ac amodau hyn yn ychwanegol at y telerau ac amodau aelodaeth safonol.
- Mae'r aelodaeth hon yn rhoi hawl i'r aelod ddefnyddio ystafelloedd ffitrwydd Hamdden Sir Benfro at ddibenion personol a masnachol yn ystod oriau agor arferol.
- Er mwyn osgoi ansicrwydd, nid oes gan yr aelod hawl i ddefnyddio'r cyfleusterau ar adegau pan maent wedi'u cadw at ddefnydd arbennig clybiau / dosbarthiadau.
- Bydd yr aelodaeth yn caniatáu ar gyfer hyfforddi uchafswm o 3 cleient (isafswm oedran 13 oed) mewn ystafelloedd ffitrwydd Hamdden Sir Benfro ar unrhyw un adeg.
- Rhaid i'r unigolyn sy'n derbyn y sesiwn hyfforddi bersonol dalu'r ffi mynediad berthnasol i Hamdden Sir Benfro neu fod ag aelodaeth ddilys.
- Nid yw'r aelodaeth yn rhoi defnydd arbennig o unrhyw gyfleuster nac offer mewn ystafell ffitrwydd Hamdden Sir Benfro.
- Bydd y debyd uniongyrchol am yr aelodaeth yn parhau i redeg mis ar ôl mis. Gall aelod ganslo'r aelodaeth hon gydag un miscalendr o rybudd, ar ôl y cyfnod cychwynnol o 3 mis.
- Os dychwelir y Debyd Uniongyrchol heb ei dalu, dylech dalu ffi weinyddol o £5 i Hamdden Sir Benfro ar alw.
- Mae Hamdden Sir Benfro yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am yr aelodaeth hon neu i’w hadnewyddu ac i atal neu ganslo aelodaeth oherwydd camymddygiad, methiant i ddilyn canllawiau staff ar ddyletswydd yn y cyfleusterau, a/neu achosi perygl neu anghyfleustra diangen i ddefnyddwyr eraill y cyfleusterau.
- Gall Hamdden Sir Benfro ganslo'r aelodaeth hon ar unrhyw adeg gydag un mis calendr o rybudd.
- Ni ellir trosglwyddo'r aelodaeth hon.
- Trwy gymryd yr aelodaeth hon mae'r aelod yn cadarnhau bod ganddo, ac y bydd yn cynnal trwy gydol cyfnod yr aelodaeth hyfforddiant personol hon, gymwysterau hyfforddiant personol Lefel Uwch o leiaf. Bydd angen yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer isafswm o £5,000,000 hefyd i ymarfer mewn unrhyw un o gyfleusterau Hamdden Sir Benfro.
- Mae'r ffioedd a'r taliadau’n cael eu hadolygu'n flynyddol. Bydd pob didyniad misol yn ymgorffori'r newidiadau mewn taliadau waeth beth fo'r dyddiad dechrau aelodaeth.
- Bydd hysbysiad o newidiadau ffioedd yn cael ei arddangos ym mhob safle Hamdden Sir Benfro a'i anfon drwy e-bost at yr holl aelodau o leiaf fis cyn y newid.