Rhaid i berson cyfrifol sydd o leiaf 16 oed fod gyda phob plentyn o dan 8 oed.
Bydd yn ofynnol i'r Person Cyfrifol fynd i'r dŵr gyda'r plant sydd gydag ef/hi, cadw rheolaeth uniongyrchol a gwyliadwriaeth gyson dros y plant a bod mewn cysylltiad agos â'r plant sy'n wan yn nofio neu nad ydynt yn nofwyr.
Mae'r tabl canlynol yn nodi nifer uchaf y plant y gall un person cyfrifol fynd gydag ef/hi
| Number of Children | Ardaloedd a ganiateir | |
| Nifer o blant 0 – 3 oed | Nifer o blant 4 – 7 oed | |
| 0 | 2 | Unrhyw bwll / Mynediad Cyffredinol |
| 1 | 0 | |
| 0 | 3* | Yn ystod sesiwn strwythuredig “Nofio i'r Teulu”* |
| 1* | 2* | |
| 2* | 0 | |
**Gall Hamdden Sir Benfro gynnal mathau eraill o sesiynau strwythuredig sy'n caniatáu ar gyfer amrywiad i’r polisi derbyn plant. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu'n glir pan fyddant yn digwydd.
*Ceir mynediad ar yr amod bod plant nad ydynt yn nofwyr yn gwisgo bandiau breichiau neu gymhorthion arnofio addas eraill sy'n briodol i oedran a gallu y plentyn. Cynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio cymhorthion nofio â marc barcud neu rif BS EN yn unig.
Polisi Mynediad Plant i’r Ganolfan Hamdden
Rhoddir hawl mynediad i blant o dan wyth oed i’r cyfleuster cyhyd â,
- Mae person cyfrifol 16 oed neu'n hŷn gyda nhw
- Mae'r Person Cyfrifol yn aros yn y cyfleuster trwy gydol cyfnod presenoldeb y plentyn.
Ystafelloedd Newid
Gall plant 7 oed ac iau fynd i mewn i'r ystafelloedd newid "rhyw arall" ar yr amod bod Person Cyfrifol 16 oed neu'n hŷn gyda nhw.
Caiff Personau Cyfrifol (unrhyw berson dros 8 oed) fynd i mewn i ystafelloedd newid o'u rhyw nhw yn unig ac nid rhyw y plentyn.
Bydd yn ofynnol i unrhyw unigolyn nad yw'n uniaethu mwyach fel ei 'ryw ar adeg ei eni' ddefnyddio un o'r ystafelloedd newid Hygyrch
Ystafell Ffitrwydd
Mae’n rhaid i bob defnyddiwr Ystafell Ffitrwydd Hamdden Sir Benfro gwblhau proses sefydlu. Yr oedran ieuengaf ar gyfer mynediad heb oruchwyliaeth i unrhyw un o Ystafelloedd Ffitrwydd Hamdden Sir Benfro yw 13 oed. Yr oedran ieuengaf ar gyfer sesiynau wedi’u goruchwylio yw 11 oed.
Gall ymwelwyr â Hamdden Sir Benfro gael mynediad i'r Ystafelloedd Ffitrwydd am gyfnod o hyd at 14 diwrnod, gan ddefnyddio ein Tocyn Ymwelwyr. Rhaid i gwsmeriaid sydd eisiau cael mynediad gan ddefnyddio Tocyn Ymwelwyr allu cadarnhau eu bod wedi bod mewn sesiwn ymsefydlu yn eu cyfleuster arferol.
Gofalwyr
Gofalwr yw person sy’n estyn cymorth i rywun arall sy’n llai abl, os ydyn nhw’n cael eu talu am ddarparu’r gwasanaeth hwn ai peidio. Rydym yn defnyddio’r term “Defnyddiwr Gwasanaeth” i ddisgrifio person sy’n derbyn y cymorth hwn.
Gofalwyr sy’n mynychu gyda “defnyddiwr gwasanaeth”
Mae’n rhaid i bob Gofalwr fod yn ddefnyddwyr wedi’u cofrestru yn Hamdden Sir Benfro
Mae’n rhaid i Ofalwyr wedi’u cyflogi ddangos rhyw fath o adnabyddiaeth sy’n gymwys (cerdyn ID y cyflogwr)
Caiff Gofalwyr wedi’u cofrestru a Gofalwyr sy’n cael eu talu gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd gyda’i ddefnyddiwr(wyr) gwasanaeth am ddim. Os yw’r “Defnyddiwr Gwasanaeth” yn defnyddio’r Ystafell Ffitrwydd, mae’n rhaid bod y gofalwyr wedi cwblhau cwrs sefydlu cyn hynny. Bydd Hamdden Sir Benfro yn darparu’r cwrs yn ddi-dâl.
Gofalwyr sy’n mynychu heb “ddefnyddiwr gwasanaeth”
Mae Gofalwyr Cofrestredig di-dâl yn gymwys ar gyfer tâl manteisiol i bob gweithgaredd perthnasol ar ôl iddynt gofrestru fel “Gofalwr” gyda Hamdden Sir Benfro. Gallant wneud hyn drwy gwblhau ffurflen Gofrestru Hamdden Sir Benfro a’u danfon i PAVS (Pembrokeshire Association of Voluntary Services). Ar ôl i’r ffurflen gael ei dychwelyd o PAVS, bydd y gofalwr di-dâl yn derbyn statws manteisiol.
Nid yw’r cyfraddau manteisiol yn gymwys ar gyfer gofalwyr cyflogedig.
Cŵn Tywys/Cymorth
Mynediad: Croesewir Cŵn Tywys a Chŵn Cymorth ym mhob cyfleuster Hamdden Sir Benfro.
Goruchwylio: Rhaid i bob ci fod ar dennyn ac o dan reolaeth bob amser tra ar y safle.
Adnabod: Rhaid i gŵn fod wedi’u cofrestru'n briodol a’i bod yn hawdd eu hadnabod fel anifeiliaid cymorth.