Teitl:                Cofrestru Defnyddiwr

Polisi:              Defnyddwyr Cofrestredig Hamdden Sir Benfro

 

Rhaid i bob defnyddiwr sy’n dymuno cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro lenwi ffurflen cofrestru defnyddiwr yn y lle cyntaf. Rhaid llenwi pob rhan o’r ffurflen yn llawn er mwyn i’r cofrestriad fod yn llwyddiannus. O lenwi’r ffurflen gofrestru, bydd manylion y defnyddiwr yn cael eu bwydo i mewn i system Gladstone MRM. Rhaid i fanylion pob defnyddiwr unigol gael eu hychwanegu atynt gan gofrestriad ffotograff (a gynhelir yn y dderbynfa). Diben hyn yw sicrhau bod y cardiau defnyddwyr a manylion y cyfrif yn cael eu defnyddio gan y defnyddiwr priodol. Mae cofrestriad ffotograff hefyd yn golygu bod modd adnabod defnyddwyr mewn achos o argyfwng.

 

Er bod angen yr holl fanylion (gellir ychwanegu rhai yn nes ymlaen), mae’n rhaid llenwi’r manylion canlynol ar bob ffurflen gofrestru cyn y gall Gladstone brosesu’r cais:-

 

  • Enw Cyntaf
  • Cyfenw
  • Dyddiad Geni
  • Cod Post (cartref)
  • Teitl / Rhyw
  • Ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd?
  • Ethnigrwydd
  • Ydych chi’n ystyried mai Cymraeg yw’ch iaith gyntaf?
  • Unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol?
  • Llun

 

Ni fydd defnyddwyr sy’n amharod i ddiwallu’r meini prawf uchod yn gymwys i gofrestru gyda Hamdden Sir Benfro.

 

Gall Defnyddwyr Cofrestredig: -

 

  • Gadw lle ymlaen llaw am weithgaredd / sesiwn / cyfleuster yn unol â’r polisi cadw lle.
  • Bod yn gymwys i fynychu dosbarthiadau neu sesiynau iechyd a ffitrwydd
  • Cadw lle dros y ffôn
  • Ymaelodi â’r Ganolfan Hamdden
  • Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol am aelodaeth
  • Defnyddio’r cyfleusterau ffitrwydd o gwblhau sesiwn gynefino
  • Meddu ar gyfrif gyda Hamdden Sir Benfro
  • Bod yn gymwys am ffioedd amser tawel