P'un a ydych chi'n glwb chwaraeon, grŵp sydd eisiau cwrdd neu eisiau trefnu parti i rywun, mae llefydd a chyfleusterau ar gael i chi eu llogi.

Gall clybiau hyfforddi drwy fisoedd y gaeaf yn ein neuadd chwaraeon neu gall teuluoedd a ffrindiau logi cwrt badminton neu dennis bwrdd. Rydym yn cynnal ein partïon plant yn y neuadd chwaraeon hefyd.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â'r ganolfan ar 01437 775504 neu e-bostiwch: [javascript protected email address]

Gallwch chi logi:

  • Neuaddau Chwaraeon
  • Cyrtiau Badminton
  • Cyrtiau pêl-fasged
  • Tenis bwrdd
  • Cae pob tywydd
  • Partïon
  • Ystafelloedd

 

Partïon

  • A ydych chi eisiau bwcio parti yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun?
  • A ydych chi wedi dewis eich parti?
  • Teganau arnofio a Hwyl yn y pwll bach
  • Teganau arnofio a Hwyl yn y prif bwll
  • Teganau arnofio a Hwyl yn y ddau bwll
  • Tegan pwll chwyddadwy yn y prif bwll
  • Playzone
  • Chwarae risg
  • Sgwteri a Sglefrio
  • Pêl-droed

Llenwch y ffurflen ymholi.