Pasbort i Hamdden

Aelodaeth Actif

Ar gyfer pwy mae'r aelodaeth hon?

Mae'r aelodaeth gost is hon ar gyfer bobl sy'n derbyn:

  • Gostyngiad Treth y Cyngor (Prawf Modd)
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) os ydych mewn addysg amser llawn neu ran amser.
  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) os ydych mewn addysg amser llawn neu ran amser.
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) JSA(IR), Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (PCGC), Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ESA(IR)
  • Credyd Cynhwysol (Dyfarniad Uchaf)

 

Pam ymuno ag aelodaeth Pasbort i Hamdden?

Mae'r aelodaeth hon yn cynnwys defnydd o'r pwll nofio, y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a mwy! Nid oes isafswm tymor i'r aelodaeth hon.

Sut mae ymuno â Phasbort i Hamdden?

Bydd angen i chi ymuno â'r aelodaeth hon yn eich canolfan hamdden leol. Gofynnir am dystiolaeth o gymhwysedd yn ystod y broses ymgeisio. Mae cymhwyster yn destun adolygiad bob 6 mis. Mae gennych yr opsiwn o dalu’r aelodaeth hon yn fisol ag arian parod, â cherdyn, neu drwy ddebyd uniongyrchol neu fel taliad chwe mis untro.

Sut gallaf dalu am yr aelodaeth hon?

Gallwch dalu am yr aelodaeth hon trwy ddebyd uniongyrchol misol.

Mae’r aelodaeth hon hefyd ar gael fel cynnig talu wrth fynd bob mis neu fel taliad chwe mis untro.

 

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi fod wedi cwblhau sesiwn ymgynefino cyn y gallwch ddefnyddio ein campfeydd.