Aelodaeth bwrpasol Tyddewi

Mae’r aelodaeth hon yn caniatáu defnyddwyr i ddefnyddio’r gampfa a dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp yn Neuadd Chwaraeon Tyddewi. 

Nid yw’r aelodaeth hon yn caniatáu defnydd o unrhyw ganolfannau hamdden eraill. 

Mae bod yn Aelod Actif yn rhoi mynediad i chi i bob un o’n canolfannau hamdden, gan gynnwys Neuadd Chwaraeon Tyddewi. Cliciwch yma i ddarganfod mwy. 

 

Sut ydw i'n ymuno?

Cliciwch ar y ddolen Ymunwch Nawr!

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda ni, yna crëwch gyfrif a fydd yn caniatáu ichi archebu gweithgareddau.

 

Sut gallaf dalu am yr aelodaeth hon?

Gallwch dalu am yr aelodaeth hon drwy ddebyd uniongyrchol misol neu fel ffi flynyddol. 

Rhaid i aelod sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol dalu am leiafswm o dri mis.