Dosbarthiadau Rhithiol
Digidol
Gwasanaeth ffitrwydd digidol sy'n darparu mynediad i lyfrgell helaeth o ymarferion, gan gynnwys hyfforddiant egnïol iawn â seibiannau (HIIT), ioga, hyfforddiant cryfder, ymarferion cardiofasgwlaidd, a mwy yw Les Mills On Demand.
P'un a ydych gartref, yn teithio, neu'n methu â chyrraedd ein canolfannau, mae Les Mills On Demand yn sicrhau y gallwch gadw'n heini a chynnal eich trefn ffitrwydd unrhyw bryd, unrhyw le.
Os nad ydych yn aelod gweithredol ar hyn o bryd, gallwch barhau i fwynhau buddion Les Mills On Demand am ddim ond £5.00 y mis.
Mae'r opsiwn fforddiadwy hwn yn caniatáu ichi brofi'r un sesiynau ymarfer corff o ansawdd uchel a'r un hyblygrwydd, gan eich helpu i gadw'n heini ac yn llawn cymhelliant ni waeth ble rydych chi.
Sut ydw i'n ymuno?
Cliciwch ar y ddolen Ymunwch Nawr!
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda ni, yna crëwch gyfrif a fydd yn caniatáu ichi archebu gweithgareddau.