Gofalwyr Maeth a Phlant sy'n Derbyn Gofal
Aelodaeth Actif
Mae Aelodaeth Gofalwyr Maeth yn rhoi'r hawl i'r Gofalwr ac unrhyw blant biolegol i Aelodaeth Unigol Actif ar gyfradd ostyngol.
Ar hyn o bryd mae'n costio £14.50
Mae hyn hefyd yn cynnwys yr opsiwn o Aelodaeth Dysgu Nofio rhad ac am ddim ar gyfer y plentyn sy’n derbyn gofal.
Byddai hyn yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio holl gyfleusterau Hamdden Sir Benfro
Beth mae'n ei gynnwys?
I gael manylion llawn am yr hyn y mae Aelodaeth Unigol Actif yn ei gynnwys, cliciwch yma.
I gael manylion llawn am yr hyn y mae Aelodaeth Dysgu Nofio yn ei gynnwys, cliciwch yma.
Sut gallaf fanteisio ar y cynnig hwn?
I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn, bydd angen i chi fod yn maethu trwy system Cyngor Sir Penfro. Bydd angen prosesu ceisiadau gyda'ch Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, cyn i ni allu actifadu'r aelodaeth.
Cysylltwch â'ch Gweithiwr Gofal Cymdeithasol i ddechrau.