Yn dechrau 23 Mehefin | 12 Wythnos | Abergwaun, Hwlffordd ac Aberdaugleddau
Ydych chi’n barod i gymryd eich camau cyntaf i redeg?
P’un a ydych chi’n dechrau o’r dechrau neu’n dychwelyd ar ôl seibiant, mae rhaglen Soffa i 5K Hamdden Sir Benfro yn ffordd berffaith o feithrin hyder, gwella’ch ffitrwydd a chyflawni rhywbeth anhygoel.
Mae’r cwrs strwythuredig 12 wythnos hwn wedi’i gynllunio i’ch tywys o ddechreuwr llwyr i redeg 5 cilomedr, gyda chefnogaeth arbenigol bob cam o’r ffordd.
Beth i’w ddisgwyl
Dyddiad dechrau: Wythnos yn dechrau 22 Mehefin
Hyd: 12 wythnos
Sesiynau: Un sesiwn dan arweiniad hyfforddwr bob wythnos
Hyd y sesiwn: Hyd at un awr
Pryd mae’r sesiynau’n cael eu cynnal?
| Canolfan Hamdden | Dyddiadau | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr |
| Abergwaun | Dydd Mercher | 7.15yp - 8.15yp | Awyr Agored | Gaz |
| Hwlffordd | Dydd Iau | 6.00yp - 7.00yp | Trac Rhedeg ym mhentref chwaraeon Sir Benfro | Kevin |
| Aberdaugleddau | Dydd Mawrth | 6.45yp - 7.45yp | Awyr Agored | Kevin |
Ar gyfer Canolfannau Hamdden Abergwaun ac Aberdaugleddau, bydd yr Hyfforddwr yn cwrdd â chi yn y ganolfan.
Bob wythnos, byddwch yn ymuno â grŵp cyfeillgar a chefnogol dan arweiniad un o’n hyfforddwyr profiadol, gan eich helpu i feithrin stamina, cyflymder a hyder yn raddol. Mae’r rhaglen yn dilyn strwythur profedig a blaengar i sicrhau gwelliannau diogel a chyraeddadwy.
Beth yw’r nod yn y pen draw? Eich paratoi i redeg am 5 cilomedr — gyda’r potensial i ddathlu eich cyflawniad mewn Parkrun lleol ar ddiwedd y rhaglen!
Cost
Wedi’i gynnwys yn y tâl aelodaeth
£20 i bobl nad ydynt yn aelodau (yn cynnwys y cwrs cyfan)
Sut i archebu
Gallwch archebu drwy’r ap, ar-lein, neu drwy gysylltu â’r ganolfan.
I wneud pethau’n syml:
Does ond angen i chi archebu (a thalu, os yw’n berthnasol) am y sesiwn gyntaf
Yna bydd ein tîm yn eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y sesiynau sy’n weddill
Does dim angen poeni am ail-archebu bob wythnos — dewch draw a rhedwch!
Pam ymuno?
- Adeiladu ffitrwydd ar eich cyflymder eich hun
- Cael cymhelliant gan grŵp cefnogol
- Dysgu technegau rhedeg priodol
- Gwella llesiant meddyliol
- Gweithio tuag at nod pendant
Os mai eich nod yw ffitrwydd, colli pwysau, neu roi cynnig ar rywbeth newydd, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio gyda chi mewn golwg.
Cwestiynau cyffredin
Oes angen i mi fod yn heini i ymuno?
Ddim o gwbl! Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer dechreuwyr. Byddwch chi’n dechrau’n araf ac yn gwneud cynnydd yn raddol dros y 12 wythnos.
Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer y sesiynau?
Dillad chwaraeon cyfforddus, esgidiau rhedeg addas, a photel o ddŵr. Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd gan y bydd y sesiynau yn yr awyr agored.
Faint o bobl fydd ym mhob grŵp?
Mae meintiau grwpiau yn amrywio yn dibynnu ar y safle, gan fod gan bob lleoliad ei gapasiti uchaf ei hun i sicrhau profiad o safon.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn colli sesiwn?
Er ein bod yn annog presenoldeb rheolaidd i gael y canlyniadau gorau, gall eich hyfforddwr eich tywys ar sut i aros ar y trywydd iawn os byddwch yn colli wythnos. Rhowch wybod i ni os na fyddwch yn gallu mynychu rhai o’r sesiynau.
Oes angen i mi archebu bob wythnos?
Na — dim ond y sesiwn gyntaf sydd angen i chi ei harchebu. Byddwn ni’n gofalu am ychwanegu eich enw at weddill y rhaglen.
A yw’n bosibl i bobl nad ydynt yn aelodau ymuno?
Ydy! Gall pobl nad ydynt yn aelodau ymuno am ffi untro o £20 am y cwrs 12 wythnos llawn.
A fydda i’n bendant yn gallu rhedeg 5 cilomedr erbyn diwedd y sesiynau?
Dyna yw nod y rhaglen, ar yr amod eich bod chi’n mynychu’n rheolaidd ac yn dilyn y canllawiau. Mae pawb yn symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain, ond mae’r nod yn gyraeddadwy i bob un sy’n cymryd rhan.
Oes digwyddiad ar derfyn y sesiynau?
Er nad yw’n orfodol, gall cyfranogwyr ddewis dathlu eu cynnydd trwy gymryd rhan mewn Parkrun lleol ar ddiwedd y rhaglen.
Cymerwch y cam cyntaf
Does dim amser gwell i ddechrau eich taith rhedeg. Ymunwch â Soffa i 5K Hamdden Sir Benfro a cewch weld beth allwch chi ei wneud.
Mae nifer y lleoedd yn brin!