Nofwyr mewn gwersi ar hyn o bryd

Dyma sut bydd nofwyr sy'n mynychu gwersi yn ail-archebu ar gyfer tymor nesaf.

Bydd y cwrs 11 wythnos o wersi nofio yn dechrau ar Ddydd Llun 28.04.25 ac yn rhedeg hyd nes yr wythnos sy'n dechrau ar 14.07.25.

Bydd gwersi dydd Llun yn gwrs 10 wythnos oherwydd gŵyl y banc ar 05.05.25.

Ni fydd unrhyw wersi yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor, sef yr wythnos sy'n dechrau ar 26.05.25.

Nodwch y wybodaeth ganlynol wrth fynd ati i gadw eich lle yn y gwersi ar gyfer tymor nesaf.

 

Blaenoriaeth i Archebu

  • Bydd pob nofiwr yn yr ysgol nofio yn cael e-bost i roi gwybod iddynt pa wers a ddyrannwyd iddynt ar gyfer y tymor nesaf.
  • Byddwn yn e-bostio dolen i'r holl nofwyr sy'n mynychu gwersi er mwyn i chi dalu ar-lein. Sicrhewch fod cyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru i gyfrif hamdden eich plentyn er mwyn i chi dderbyn y neges hon. I roi cyfeiriad e-bost ar gyfrif eich plentyn, e-bostiwch eich canolfan hamdden leol gyda'r cyfeiriad e-bost yr ydych am ei ychwanegu, ac enw llawn a dyddiad geni eich plentyn.
  • Bydd y nofwyr yn cael lle yn y don gywir. Mae'n bosibl bydd y wers yn cael ei chynnal ar amser gwahanol, ar ddiwrnod gwahanol, neu gydag athro gwahanol. Ymdrechwn i wneud cyn lleied o newidiadau ag sy'n bosibl.
  • Bydd gennych flaenoriaeth archebu o Ddydd Llun 07.04.25 hyd at Ddydd Iau 10.04.25.
  • Os oes gan eich plentyn aelodaeth, cadarnhewch erbyn Dydd Iau 10.04.25 er mwyngadw eu lle. Cadarnhewch trwy ateb yr e-bost gwybodaeth ail-archebu, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddarperir yn yr e-bost.
  • Bydd unrhyw nofiwr sydd heb dalu am wersi nofio yn cael eu dileu.
  • Os ydych am newid eich gwers, mae modd i chi wneud hyn ar Ddydd Gwener 11.04.25 o 11.30yb ymlaen. Bydd rhaid i chi ffonio eich canolfan hamdden leol er mwyn gwneud hyn.
  • Anfonwch e-bost at eich canolfan hamdden leol os nad ydych am ddychwelyd i'r gwersi neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.

 

GWYBODAETH AM DALU

Mae nifer o opsiynau i dalu am wersi nofio:

 

Opsiynau Aelodaeth

Y ffordd symlaf i dalu am eich gwersi nofio yw gydag aelodaeth. Mae gwersi nofio wedi’u cynnwys yn ein haelodaeth dysgu nofio a gellir eu hychwanegu at aelodaeth aelwyd am dâl bach ychwanegol. Y buddion sydd ag aelodaeth yw:

  • Gallwch rannu'r gost o fynychu gwersi nofio trwy dalu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol misol.
  • Bydd eich lle yn y gwersi yn cael ei gadw a'i dalu'n awtomatig, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cadarnhau y bydd eich plentyn yn mynychu.
  • Mae aelodaeth dysgu nofio hefyd yn cynnwys mynediad i weithgareddau iau, sesiynau nofio cyhoeddus, a gostyngiadau i bartïon a chynlluniau gwyliau!
  • Gwybodaeth aelodaeth

 

Talu am y Tymor

Gallwch dalu am dymor o wersi ar-lein.

Anfonir yr e-bost talu ar Ddydd Llun 07.04.25 ac eto ar Ddydd Mercher 09.04.25

Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i dalu am y gwersi. Wedyn, cliciwch 'Fy Masged', bydd y ddolen honno'n eich arwain at eich manylion ac i dalu â cherdyn.

Byddwch yn derbyn e-bost ar gyfer pob un plentyn sydd wedi'i gofrestru am wersi nofio gyda dolen unigol ym mhob un.

Os nad ydych yn derbyn e-bost erbyn 09.04.25, ffoniwch eich canolfan hamdden leol i dalu.

 

Gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg

Nod pob cyfleuster yw cynnig gwersi yn ddwyieithog. Os yw'n well gennych chi i'ch plentyn dderbyn cyfarwyddyd yn Gymraeg yn unig, llenwch y ffurflen gais, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich cais. Sylwch y bydd angen nifer gofynnol o gyfranogwyr ar gyfer hyfywedd dosbarth, fel sy'n wir am bob gwers.

Fideo Canllawiau Ailarchebu