Rhaglen Chwaraeon Cerdded
O ddydd Llun 4 Tachwedd, byddwn yn cyflwyno ein sesiynau Chwaraeon Cerdded Newydd yn Hamdden Sir Benfro.
Cadw’n Heini a Chael Hwyl gyda Hamdden Sir Benfro: Ymunwch â'n Sesiynau Chwaraeon Cerdded!
Chwilio am ffordd hwyliog a chymdeithasol o gadw'n heini? Mae Hamdden Sir Benfro yn cynnig sesiynau chwaraeon cerdded, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, a phêl-rwyd, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i fwynhau eich hoff chwaraeon heb fod yn rhy heriol. Os ydych yn chwaraewr profiadol neu'n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae ein sesiynau'n berffaith i unrhyw un sydd eisiau chwarae ar eu cyflymder eu hunain.
Mae gennym gynnig cychwynnol gwych i chi
Yn ystod y pythefnos cyntaf, gallwch roi cynnig arni yn rhad ac am ddim!
Dechreuwch symud, cwrdd â phobl newydd, a mwynhau chwaraeon tîm mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol. Yn Hamdden Sir Benfro, rydym yn angerddol am gadw'n heini, cael hwyl, a bod yn rhan o gymuned.
Cofrestrwch heddiw gyda Hamdden Sir Benfro ac ymunwch yn y gêm!