Mae Pêl-rwyd Cymru yn sôn ychydig mwy wrthym am y gamp:
Cyflwyniad i bêl-rwyd dan gerdded
Pêl-rwyd dan gerdded yw pêl-rwyd ond ar gyflymder cerdded.
.
Mae pêl-rwyd dan gerdded yn addas ar gyfer unigolion o unrhyw oedran, siâp a maint. Mae hefyd yn addas i'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i chwarae'r gêm ac sydd am gymryd rhan mewn ffurf gerdded newydd ar y gamp a all fod yn hynod foddhaus ac yn dda i’w lles.
.
Dylai pob sesiwn ddechrau gyda gweithgareddau cynhesu ac amser gorffen wedi'i neilltuo ar gyfer ymarferion oeri. Mae yna hefyd ddeg gêm ‘fechan’ pêl-rwyd dan gerdded y gellir eu defnyddio mewn sesiynau i weithio ar sgiliau a gwaith tîm.
.
Mae gan gêm lawn pêl-rwyd dan gerdded rai newidiadau i’r rheolau er mwyn caniatáu fersiwn fwy hygyrch o’r gamp, gan gynnwys:
• Gallwch chi gymryd cam ychwanegol pan fyddwch chi'n dal y bêl.
• Gallwch ddal y bêl am bedair eiliad cyn i chi basio.
• Rhaid i chi fod tair troedfedd (0.9 metr) i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd â'r bêl.
• Rhaid i un droed fod ar y llawr bob amser, felly dim rhedeg na neidio!
.Mae pêl-rwyd dan gerdded yn ddewis amgen gwych a gall hybu cymdeithasu, buddion corfforol, ac iechyd meddwl a lles da.
Dewch o hyd i sesiwn yn un o'n canolfannau i roi cynnig arni.
Canolfan | Dydd | Amser | Lleoliad |
Crymych | Dydd Mawrth | 8:00yh - 9:00yh | Neuadd Chwaraeon |
Hwlffordd | |||
Aberdaugleddau | Dydd Iau | 5:00yh - 6:00yh | Neuadd Chwaraeon Thornton |
Penfro | Dydd Llun | 8:00yh - 9:00yh | Neuadd Chwaraeon |