> white and blue rugby ball on a grass pitch, with blue sky above

Mae Walkingrugby.co.uk yn dweud mwy wrthym am y gamp

Rygbi dan gerdded

Mae rygbi dan gerdded yn fersiwn ddigyswllt o'r gêm sydd wedi'i hanelu at chwaraewyr o bob rhyw ac o brofiad chwarae rygbi a gallu corfforol gwahanol. Ei nod yw bod yn llai rhagnodol gyda dull o chwarae sy'n cynnal diogelwch a hwyl wrth ddarparu lles corfforol a meddyliol.

Nod rygbi dan gerdded yw i ddau dîm o hyd at saith chwaraewr sgorio mwy o geisiau na’r tîm sy’n gwrthwynebu drwy basio’r bêl yn ôl neu’n ochrol a chario’r bêl dros linell gais y gwrthwynebwyr, yn ôl canllawiau’r gêm ac yn unol â’i hysbryd chwaraeon a chwarae teg. Diffinnir cerdded fel symud trwy godi a gosod pob troed yn ei thro, heb gael y ddwy droed oddi ar y ddaear ar yr un pryd.

T – Gwaith tîm: R – Parch: E – Mwynhad: D – Disgyblaeth: S – Chwarae teg

  • MAE RYGBI DAN GERDDED YN FFORDD HWYL O GADW'N HEINI A MWYNHAU CHWARAE GÊM DDIGYSWLLT!
  • RHIFAU Chi sy'n penderfynu
  • HYD Y GÊM Chi sy'n penderfynu
  • UNRHYW BÊL RYGBI O FAINT o'ch dewis
  • CYSYLLTU A RHEDEG dim cyswllt, dim rhedeg
  • Caniateir BLOCIO
  • AILDDECHRAU Pas
  • MAINT Y CAE Man diogel
  • RHAID CAEL DULL ADNABOD y timau *Mae'r canllawiau uchod yn opsiynau YN UNIG, wedi'u haddasu i weddu i'ch amgylchedd

 

Dewch o hyd i sesiwn yn un o'n canolfannau i roi cynnig arni.

 

CanolfanDyddAmserLleoliad
AbergwaunDydd Iau5:00yh - 6:00yhNeuadd Chwaraeon
HwlfforddDydd Gwener5:00yh - 6:00yhPSV
AberdaugleddauDydd Mercher8:00yh - 9:00yhNeuadd Chwaraeon
PenfroDydd Gwener8:30yh - 9:30yhNeuadd Chwaraeon
Dinbych-y-pysgodDydd Gwener8:00yh - 9:00yhNeuadd Chwaraeon

Mae'n bryd archebu eich sesiwn chwaraeon dan gerdded