> person with their foot on top of a football on grass which is green

Beth yw pêl-droed dan gerdded? Mae’r WFA, sef y Gymdeithas Pêl-droed dan Gerdded, yn dweud y canlynol: 

“Er bod pêl-droed dan gerdded yn debyg i bêl-droed arferol, mae gan y ddau lawer o wahaniaethau. Y gwahaniaeth mwyaf yw nad oes hawl i redeg – mae hyn yn cynnwys loncian hefyd! Ond gallwch chi gerdded mor gyflym ag y dymunwch, cyn belled â bod “un droed mewn cysylltiad â’r ddaear bob amser”. Mae pêl-droed dan gerdded yn gamp ddigyswllt bwrpasol a grëwyd yn 2011 gan John Croot ar gyfer y genhedlaeth hŷn, gyda rheolau syml iawn sy’n briodol i’r oedran hwn ac sydd wedi’u cynllunio gydag iechyd a diogelwch yn brif ystyriaeth iddynt. Dyna pam mai dim ond heb unrhyw gyswllt y caniateir taclo, mae pob cic rydd yn anuniongyrchol, ac ni ddylai'r bêl fyth fynd dros uchder pen. Rydyn ni'n chwarae ar gaeau bach gyda goliau bach ac, yn nodweddiadol, mae gan dimau chwech bob ochr.

Pwy all chwarae pêl-droed dan gerdded

 

Cafodd pêl-droed dan gerdded ei ddyfeisio fel camp i’w chwarae gan ddynion dros 50 oed a merched dros 40 oed. Fodd bynnag, gall unrhyw grŵp oedran chwarae pêl-droed dan gerdded, oherwydd y diffyg cyswllt a dim rhedeg. Bellach mae gennym filoedd o chwaraewyr, gan gynnwys pobl yn eu 70au a'u 80au, yn chwarae'n rheolaidd ac rydym wedi gweld gemau lle mae tair cenhedlaeth o un teulu i gyd yn chwarae gyda'i gilydd ar yr un tîm."

Pêl-droed dan Gerdded | Cymdeithas Pêl-droed dan Gerdded Lloegr

Dewch o hyd i sesiwn yn un o'n canolfannau i roi cynnig arni.

 

CanolfanDyddAmserLleoliad
CrymychDydd Mercher8:00yh - 9:00yhNeuadd Chwaraeon
Aberdaugleddau

Dydd Llun

Dydd Gwener

10:00yb - 11:00yb

10:00yb - 11:00yb

Neuadd Chwaraeon
PenfroDydd Iau5:30yh - 6:30yhNeuadd Chwaraeon

Mae'n bryd archebu eich sesiwn chwaraeon dan gerdded