Pencampwyr Cadair

Tynnwch y pwysau i ffwrdd! Gyda chymysgedd o ymarferion i wella symudedd a chryfder, bydd y dosbarth ymarfer corff wrth eistedd hwn yn ehangu eich trefn ymarfer corff mewn ffyrdd newydd! Gan ddefnyddio bandiau gwrthiant, pwysau bar a phwysau eich corff eich hun, dewch i weld beth allwch chi ei gyflawni.

 

Cylchedau Ysgafn / Cylchedau i Ddechreuwyr 

Dosbarth ymarfer i’r corff cyfan wedi'i strwythuro'n ofalus, sy'n targedu cryfder a dygnwch heb effaith. Addas ar gyfer pob oedran a gallu, wedi'i fonitro'n agos i sicrhau diogelwch gydag arddangosiadau clir drwy'r amser.

 

Bowls i rai dros 60 oed 

Yn addas ar gyfer pob gallu, bydd ein hyfforddwr yn eich tywys trwy hanfodion bowls. Cymdeithasu wrth i chi wella eich cydsymud, cydbwysedd a dysgu sgiliau newydd.

 

Cadw'n Heini Ysgafn  

Dewch yn fwy egnïol gyda'n Cadw'n Heini Ysgafn! Gydag amrywiaeth eang o ymarferion i ffyrfhau a chryfhau'r corff o'r corun i’r sawdl wrth wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

 

Cryfder a Chydbwysedd i Rai Hŷn 

Gadewch i ni wella cryfder a chydbwysedd yn hwyrach mewn bywyd! Hyfforddiant craidd a chydbwysedd i helpu i gadw'ch cymalau yn hyblyg a gwella cryfder i gynorthwyo symudedd a lleihau'r risg o gwympiadau.

 

Pilates / Pilates i Rai Hŷn

Mae Pilates i Rai Hŷn yn canolbwyntio ar ddatblygiad cytbwys y corff trwy gryfder a hyblygrwydd craidd. Dylai'r ymarfer hwn eich gadael yn teimlo'n dawel, yn gytbwys, ac wedi’ch adfywio.

 

Ymarfer Ysbeidiol Swyddogaethol

Gadewch i ni wella ein cydgysylltiad, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth o'r corff i osgoi anafiadau diangen. Mae Ymarfer Ysbeidiol Swyddogaethol yn canolbwyntio ar batrymau symud sydd â phwrpas, a thrwy hynny wella gallu'r corff i weithio'n effeithlon fel un uned. Nod yr ymarfer yw gwneud gweithgareddau bob dydd yn haws trwy eich helpu i ennill cryfder a hyder.

 

Cylchedau Campfa 

Yn addas ar gyfer pob gallu, gwella cydbwysedd, cryfder a ffitrwydd cardiofasgwlaidd gan ddefnyddio cyfuniad o rwyfwyr, beiciau, melinau traed, peiriannau gwrthiant a phwysau rhydd yn y dosbarth arddull cylched hwn.

 

Taith Gerdded Llesiant 

Mae Heini Am Oes a Cherdded er Budd Llesiant Gorllewin Cymru wedi dod at ei gilydd i gynnig taith gerdded llesiant. Ewch allan i’r awyr agored a chofleidio popeth sydd gan Sir Benfro i'w gynnig. Rydym yn argymell gwisgo esgidiau cadarn cyfforddus a dod â dillad gwrth-ddŵr ysgafn rhag ofn i'r tywydd newid yn annisgwyl.

 

Amserlen Ymarfer Grŵp

Dydd Llun 20 Ebrill – Dydd Sul 19 Gorffennaf

Er nad yw'n hanfodol, byddem yn argymell archebu lle i warantu eich lle.

 

Dydd Llun
Canolfan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Aberdaugleddau8:45yb - 9.45ybTai ChiY Meddwl a'r Corff
Aberdaugleddau10:00yb - 11:00ybTherapi DŵrCardio a Cryfder & Chyflyru
Hwlffordd10:30yb - 11:30yb

Ymarferion o’r

Gadair

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dinbych-y-Pysgod11:45yb - 12:45yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Abergwaun12:45yp - 1:45ypYmarferion o’r GadairCardio a Cryfder & Chyflyru
Hwlffordd3:45yp - 4:45yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dydd Mawrth
Canolfan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Aberdaugleddau9:00yb – 9:45yb

Ymarferion o’r

Gadair

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Penfro10:20yb – 11:20yb

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Aberdaugleddau10:00yb – 11:00yb EasylineCardio a Cryfder & Chyflyru
Hwlffordd11:25yb – 12:25ypCadw Heini (Ysgafn)Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dydd Mercher
Canolfan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Dewi Sant09:00yb – 09:30ybMX4Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dewi Sant09:30yb – 10:00ybMX4Cardio a Cryfder & Chyflyru
Hwlffordd10:30yb – 11:30yb

Ymarferion o’r

Gadair

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Crymych12:15yp – 1:00yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Abergwaun2.30yp – 3.30yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dydd Iau
Canolfan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Hwlffordd10:05yb – 11:05ybCadw Heini (Ysgafn)Cardio a Cryfder & Chyflyru
Penfro11:00yb – 12:00yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Penfro12:10yp – 1:10ypPilates (Ysgafn)Y Meddwl a'r Corff
Dydd Gwener
Canolfan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Dinbych-y-Pysgod10:30yb – 11:30yb

Cryfder & Symudedd

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Crymych1.30yp – 2:30yp

Ymarfer Cylchol

(Yn y Gampfa)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dinbych-y-Pysgod4:00yp – 5:00yp

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dydd Sadwrn
Canofan HamddenAmserDosbarthMath o Ddosbarth
Aberdaugleddau10:00yb – 11:00ybCadw Heini (Ysgafn)Cardio a Cryfder & Chyflyru
Dinbych-y-Pysgod10:45yb – 11:45yb

Ymarfer Cylchol

(Ysgafn)

Cardio a Cryfder & Chyflyru

Amserlenni

Mae ein hamserlen ddiweddaraf yma