> Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Sir Benfro
Eich cefnogi tuag at ffordd iachach o fyw

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff sydd â’r nod o gefnogi unigolion sy’n segur yn gorfforol neu sy’n dioddef un neu fwy o gyflyrau meddygol ysgafn i gymedrol – neu’r rhai sydd mewn perygl o’u datblygu. Mae’r cynllun hefyd yn darparu cymorth adsefydlu i unigolion â chyflyrau cronig.

Rheolir y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Hamdden Sir Benfro, gan gynnig gwasanaeth gwerthfawr a chefnogol ar draws y sir.

Pwy all atgyfeirio?

Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol y GIG neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys:

  • meddygon teulu
  • nyrsys practis
  • ffisiotherapyddion
  • nyrsys arbenigol

Llwybrau atgyfeirio a gynigir yn Sir Benfro:

  • generig – ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol
  • rheoli pwysau – gan gynnwys cymorth i’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, neu sydd mewn perygl o’i gael
  • adsefydlu ar ôl cael strôc
  • adsefydlu cardiaidd
  • atal cwympiadau
  • gofal cefn
  • adsefydlu ysgyfeintiol
  • adsefydlu ar ôl cael canser

Sut mae’n gweithio?

Os yw eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn credu y gallai ymarfer corff fod o fudd i’ch iechyd, gall eich cyfeirio at y cynllun. Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, byddwch yn cael gwahoddiad i ymgynghoriad yn eich canolfan hamdden leol gydag un o’n gweithwyr ymarfer corff proffesiynol cymwys.

Beth sy’n digwydd yn ystod yr ymgynghoriad?

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, bydd eich gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn:

  • adolygu eich hanes iechyd
  • cynnal archwiliadau iechyd sylfaenol
  • trafod gweithgareddau priodol ar sail eich cyflwr a’ch nodau

Yna byddwch yn dechrau rhaglen llawn hwyl a chefnogol sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddod yn fwy egnïol ac i wella’ch llesiant cyffredinol.

Y mathau o sesiynau a gynigir:

Rydym yn darparu sesiynau wyneb yn wyneb yn y gampfa, yn y dŵr, ac offer cylched mewn canolfannau hamdden ar draws Sir Benfro. Mae’r gweithgareddau wedi’u haddasu i gyd-fynd ag anghenion a galluoedd unigol.

Pryd alla i fynychu?

Mae sesiynau wedi’u hamserlennu drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys gyda’r nos a’r penwythnosau, gan gynnig hyblygrwydd i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw. Bydd eich gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn helpu i greu amserlen wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Hyd y rhaglen:

Mae’r rhaglen atgyfeirio yn para 16 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag y dymunwch.

Costau:

  • talu fesul sesiwn: £3.00 neu;
  • aelodaeth y cynllun atgyfeirio i wneud ymarfer corff: £23.10 y mis (yn cynnwys mynediad i sesiynau ar draws y sir)

Beth ddylwn i ei wisgo?

Does dim angen dillad arbennig – gwisgwch rywbeth cyfforddus. Rydym yn argymell esgidiau gwastad sy’n eich cynnal, fel esgidiau ymarfer corff.

Oes angen i mi fod yn heini i ymuno?

Ddim o gwbl. Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi pob lefel ffitrwydd. Mae gweithgareddau wedi’u teilwra i’ch anghenion personol a’ch cyflwr meddygol.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr 16 wythnos?

Ar ddiwedd eich rhaglen, bydd gennych apwyntiad dilynol i adolygu eich cynnydd a thrafod opsiynau ar gyfer parhau â’ch lefelau gweithgaredd yn yr hirdymor.

 

 

 

Dyma rywfaint o’r adborth rhagorol rydym wedi’i dderbyn: 

“Mae fy mhrofiad o raglen atgyfeirio’r GIG yng nghanolfan hamdden Abergwaun ac Ian Smith wedi bod yn rhagorol. Pan ddechreuais ym mis Ionawr, roeddwn i’n isel iawn oherwydd fy adferiad araf ar ôl cael llawdriniaeth i osod pen-glin newydd. Roeddwn i’n dioddef poen a thyndra yn y cymal ac ystod fach iawn o symudiad oedd gen i. Mae Ian yn broffesiynol ac yn gefnogol iawn. Mae ganddo berthnasoedd un i un da gyda’i holl gleientiaid. Dros y pedwar mis diwethaf rydw i wedi gwella fy ystod symudiad a’m cryfder ac rydw i nawr yn magu hyder i herio fy symudiadau a dychwelyd i’m gweithgareddau blaenorol. Fy sgôr ar gyfer y rhaglen yw 100%.”

 

“Roedd y rhaglen gyfan yn wych. Gwnaeth fy nghodi o gyflwr heb gymhelliant o gwbl a rhoi egni a chymhelliant newydd i mi.  Roedd y cysylltiad rhwng ffisiotherapydd y GIG a’r rhaglen yn anhygoel gan iddo drosi’r holl feysydd i’w gwella y mae’r ffisiotherapydd wedi’u hawgrymu yn ymarfer corff ymarferol.  Mae fy ffitrwydd corfforol a meddyliol wedi’u trawsnewid ac mae’r ymarfer cryfhau wedi gwella fy symudiad ac ystum fy nghorff mewn ffordd anhygoel.  O ganlyniad, rwyf nawr yn gwneud tair i bedair awr y dydd o waith llaw caled yn yr awyr agored ac er bod angen llawdriniaeth i mi gael clun newydd o hyd, rwy’n ymdopi’n dda. Er fy mod i efallai braidd yn annodweddiadol ar gyfer y rhaglen gan fy mod i’n gymharol ifanc ac mewn iechyd da, roeddwn i mewn perygl o ddirywiad terfynol a rhoddodd y rhaglen stop ar hynny.    Roedd y rhaglen a dull medrus Tom yn drawsnewidiol, a gwelais lawer o bobl eraill yn cael yr un budd â fi hefyd.  Fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, roeddwn i’n dod i gysylltiad rheolaidd â phobl a oedd yn dioddef prosesau tebyg o golli hyder a gallu corfforol a byddai rhaglen fel hon wedi eu helpu nhw’n fawr ac wedi lleihau eu hangen am gymorth yn y broses.”

 

“Mae’r dosbarthiadau’r cynllun atgyfeirio i wneud ymarfer corff wedi bod yn allweddol yn ei adferiad ar ôl ei strôc. Mae ei symudedd, ei gydbwysedd a’i gydsymudiad wedi gwella’n fawr i lefel na fyddem wedi meddwl y byddai byth yn ei chyflawni. Heb eich cymorth, eich gwybodaeth a’ch angerdd anhygoel chi, heb sôn am eich amynedd a’ch ymrwymiad diddiwedd, dydw i ddim yn gwybod ble bydden ni wedi bod. Mae mynychu eich dosbarthiadau bob wythnos, a chymysgu â phobl eraill yn yr un sefyllfa hefyd wedi helpu ei gyflwr meddyliol yn fawr iawn. Nid yw’r effeithiau seicolegol ar ôl cael strôc yn cael eu trafod lawer, mewn gwirionedd. Mae mynychu wedi helpu Wayne i deimlo nad yw ar ei ben ei hun.”

 

Exercise referral logo