Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein wal ddringo yn ailagor, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Dringo Sir Benfro i gefnogi ei dychweliad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o Glwb Dringo Sir Benfro, neu os hoffech wybod mwy am sut y bydd y sesiynau'n gweithredu, anfonwch e-bost at:
[javascript protected email address]
Ar ôl agor, dim ond os ydynt yn aelod o Glwb Dringo Sir Benfro y bydd dringwyr yn gallu defnyddio'r cyfleuster.
Diolch am eich amynedd a'ch diddordeb parhaus pan nad oedd y wal ar gael. Rydym yn gwybod cymaint y mae’r cyfleuster yn cael ei werthfawrogi gan ddringwyr newydd a phrofiadol, ac rydym yn falch iawn o fod yn cymryd camau tuag at groesawu pawb yn ôl.
Edrychwn ymlaen at weld y gymuned ddringo yn ffynnu eto a gobeithio y gallwn eich croesawu i sesiwn yn fuan iawn.