Rydym yn falch o gyflwyno offer Matrix Fitness yn ein Canolfan Hamdden yn Aberdaugleddau. Mae cwmni Matrix yn adnabyddus am ei offer peirianyddol manwl gywir a thechnoleg hawdd ei defnyddio, ac mae’n cynnig popeth sydd ei angen arnoch i gyflawni eich nodau ffitrwydd. O ddechreuwyr i athletwyr profiadol, mae campfa Matrix newydd Aberdaugleddau wedi’i chynllunio i gefnogi pob taith ffitrwydd.

 Mae campfa Matrix newydd sbon Aberdaugleddau, ynghyd â chanolfan arloesol EGYM, yn codi eich sesiynau ymarfer corff i’r lefel nesaf. Gallwch gael cynllun hyfforddi wedi’i deilwra sy’n addasu i’ch cynnydd, gan sicrhau eich bod bob amser yn gweithio ar y dwysedd ymarfer corff cywir. P’un a ydych chi newydd ddechrau yn y gampfa neu’n fynychwr campfa profiadol, mae system EGYM yn eich helpu i hyfforddi’n ddoethach. Gallwch olrhain eich taith gydag ap Hamdden Sir Benfro a gweld eich canlyniadau mewn amser real!

Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am offer a dyddiadau gosod.

Mae'r cynllun a'r offer yn destun newid.

The new cardio equipment
The new strength equipment