Newyddion cyffrous i Abergwaun!
Mae ein campfa Matrix newydd sbon yn agor yn fuan, gan ddod ag offer ffitrwydd o’r radd flaenaf a thechnoleg flaengar i garreg eich drws. Mae cwmni Matrix Fitness yn adnabyddus am ei ymrwymiad i ansawdd, ac rydym yn falch o gyflwyno’r rhagoriaeth honno i chi. O hyfforddiant cardio i gryfder, campfa Matrix Abergwaun yw eich man cychwyn newydd i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
Rydym hefyd yn falch iawn y bydd gennym ganolfan EGYM - bydd eich sesiynau ymarfer corff yn newid am byth! Mae ein system EGYM yn dylunio rhaglen ffitrwydd wedi’i theilwra yn seiliedig ar eich anghenion, gan ddefnyddio offer Matrix i’ch helpu i hyfforddi’n effeithlon. Wrth i chi gryfhau, mae eich rhaglen yn addasu’n awtomatig i wneud yn siwr eich bod yn dal ati i wella. Gallwch olrhain eich cynnydd yn rhwydd trwy ap Hamdden Sir Benfro gan sicrhau eich bod yn cael eich ysgogi bob cam o'r ffordd.
Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am offer a dyddiadau gosod.
Mae'r cynllun a'r offer yn destun newid.