Rydym yn falch o gyflwyno offer Matrix Fitness i Ddinbych-y-pysgod! Mae Matrix yn adnabyddus am ei offer perfformiad uchel a’i dechnoleg flaengar, sy’n ei wneud yn berffaith ar gyfer cymuned ffitrwydd Dinbych-y-pysgod. P’un a ydych yn ddechreuwr neu’n unigolyn sy’n dwlu ar ffitrwydd, mae gan gampfa Matrix newydd Dinbych-y-pysgod bopeth sydd ei angen arnoch chi i’ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial. Dewch i mewn i brofi pŵer Matrix - mae eich taith ffitrwydd yn cychwyn yma!

 Mae campfa Matrix newydd Dinbych-y-pysgod, ynghyd â chanolfan EGYM, yn rhoi’r profiad hyfforddi mwyaf personol i chi. Mae eich rhaglen yn esblygu gyda chi, gan sicrhau eich bod bob amser yn gweithio ar y lefel gywir. P’un a ydych chi’n canolbwyntio ar gryfder, gwytnwch, neu ffitrwydd cyffredinol, mae EGYM a Matrix yn sicrhau bod eich hyfforddiant yn parhau i fod yn effeithiol. Gallwch olrhain pob cam o’ch cynnydd trwy ap Hamdden Sir Benfro gan sicrhau eich bod yn cael eich ysgogi i barhau ar eich taith!

Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am offer a dyddiadau gosod.

Mae'r cynllun a'r offer yn destun newid.