Mae’n bleser gennnym groesawu cwmni Matrix Fitness i Dyddewi! Mae offer ffitrwydd arloesol Matrix ar flaen y gad, gan gynnig offer o ansawdd uchel sy’n eich helpu i gael y gorau o’ch sesiynau ymarfer corff. P’un a ydych am wella’ch gwytnwch, maguu cryfder, neu roi cynnig ar rywbeth newydd, mae gan ein campfa Matrix yn Nhyddewi bopeth sydd ei angen arnoch i fynd â’ch taith ffitrwydd i’r lefel nesaf. Ymunwch â ni a theimlo’r gwahaniaeth!
Gall aelodau Tyddewi nawr brofi’r hyfforddiant clyfar gorau yn ein campfa Matrix newydd a’n canolfan EGYM. Mae eich rhaglen bersonol yn cael ei llunio gan ddefnyddio offer Matrix ac yn addasu’n awtomatig wrth i chi wella. Dim gwaith dyfalu - dim ond hyfforddiant effeithiol sy’n esblygu gyda chi. Gallwch fonitro eich cynnydd trwy ap Hamdden Sir Benfro a pharhau eich taith ffitrwydd ar y trywydd iawn.
Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am offer a dyddiadau gosod.
Mae'r cynllun a'r offer yn destun newid.