Er mwyn cael corff a meddwl iach, credwn ei bod yn bwysig cael agwedd gytbwys rhwng gwaith, hamdden, ymarfer corff ac ymlacio.
Ystafelloedd Iechyd
Ystafelloedd iechyd yw'r lle delfrydol i ymlacio ar ôl diwrnod caled, ac maent yn helpu i leddfu straen ffordd fodern o fyw. Mae ein hystafelloedd iechyd yn cynnig sawna ac ystafell stêm.
I ddefnyddio'r Ystafell Iechyd, rhaid i chi:
Fod yn 16 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r Ystafell Iechyd heb gwmni
Gall plant 11 oed neu'n hŷn ddefnyddio’r Ystafell Iechyd os bydd person cyfrifol dros 16 oed gyda nhw.
Archebwch eich sesiwn ar-lein, drwy ffonio’r ganolfan neu ddefnyddio ap Pembs Leisure.
Rhybudd
Rydym yn cynghori nad yw’r bobl ganlynol yn defnyddio’r sawna / ystafelloedd stêm:
- Menywod sy'n feichiog.
- Y rhai sy'n diabetig â thraed wedi'u niweidio neu sy'n dioddef o niwropatheg ymylol.
- Y rhai sy'n dioddef o glefyd y galon / problemau cylchrediad y gwaed a phwysedd gwaed uchel ac isel.
- Y rhai â chlefydau croen heintus / briwiau a chlwyfau.
- Y rhai sy'n dioddef o salwch lle nad ydych yn gallu chwysu.
- Os ydych yn cymryd gwrthgeulyddion / gwrth-histaminau / cyffuriau cwsg, tawelyddion neu unrhyw feddyginiaethau eraill o gwbl sy'n eich gwneud yn ansicr a yw'n ddoeth defnyddio sawnau / ystafelloedd stêm.
- Os ydych wedi yfed alcohol neu bryd o fwyd trwm o fewn awr a hanner cyn yr archeb.
- Os ydych wedi dioddef o byliau meigryn (SAWNAU).
- Os ydych wedi gwneud ymarfer corff yn ddiweddar (YSTAFELLOEDD STÊM).
- Y rhai sy'n dioddef o unrhyw gyflwr o gwbl sy'n eich gwneud yn ansicr a yw'n ddoeth defnyddio sawnau / ystafell stêm.
Y rhai sy’n wynebu risg benodol o ddefnyddio sawnau ac ystafelloedd stêm ac mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i’r canlynol:-
- Plant
- Yr henoed
- Menywod sy'n feichiog
- Unigolion diabetig
Os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod, gofynnwn i chi lofnodi ein hymwadiad a byddem yn eich cynghori i beidio â defnyddio'r ystafell iechyd.