Canlyniadau'r arolwg ar ôl sesiwn sefydlu

Croeso i'n dangosfwrdd arolwg ar ôl sesiynau sefydlu campfa, lle rydym yn rhoi cipolwg craff ar brofiadau ein haelodau gwerthfawr.

Daw'r canlyniadau hyn o'n sesiynau sefydlu campfa ledled y sir. 

Cymerwch gip ar farn ein cwsmeriaid isod!

Ein sgôr gyfartalog ar gyfer holl gyfranogwyr yr arolwg yw 4.9 allan o 5 seren.

Pa mor fodlon oeddech chi ar ein sesiynau sefydlu gampfa?

Ein sgôr gyfartalog ar gyfer holl gyfranogwyr yr arolwg yw 4.9 allan o 5 seren. 

A wnaeth ein sesiwn sefydlu campfa fodloni'ch disgwyliadau?

Roedd 100% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn fodlon ar ein sesiynau sefydlu campfa. Dywedodd 55% ei bod yn rhagori ar eu disgwyliadau! 

Sylwadau cwsmeriaid

“Roedd hi'n gyfeillgar iawn, a gwnaeth yn siŵr fy mod yn ymwybodol o bopeth heb fynd dros y manylion roeddwn i eisoes yn eu gwybod o fod wedi bod yn mynd i’r gampfa cyn hynny”

 

“Roedd Anna yn ardderchog, yn rhoi sylw i fy anghenion a'r hyn rwy'n ceisio'i gyflawni a pham, a gwnaeth i mi deimlo'n gartrefol. Cefais gyngor cyffredinol da y byddaf yn ei ddilyn er mwyn sicrhau bod fy sesiynau campfa yn cyd-fynd â fy amserlen waith a fy ngweithgareddau ffitrwydd eraill a’u bod yn gynaliadwy yn y tymor hir.”

 

“Fe wnaeth i ni deimlo’n gyfforddus iawn yn amgylchedd y gampfa. Esboniwyd sut i ddefnyddio pob darn o offer a chawsom gyfle i roi cynnig arnynt. Rhoddodd Bevis gyngor da i ni ar sut i reoli ein cyflymder a chynigiodd ein helpu os oedd angen yn y dyfodol.”

Cliciwch yma i weld ein sgôr ar gyfer hyfforddiant cynefino yn y gampfa ar gyfer eich canolfan hamdden agosaf. 

Data yn gywir ar: 2025

Eisiau archebu eich sesiwn sefydlu campfa?

Gallwch wneud hyn drwy ein ap neu wefan, neu drwy gysylltu â'ch canolfan hamdden o ddewis.