“Fe wnaeth i ni deimlo’n gyfforddus iawn yn amgylchedd y gampfa. Esboniwyd sut i ddefnyddio pob darn o offer a chawsom gyfle i roi cynnig arnynt. Rhoddodd Bevis gyngor da i ni ar sut i reoli ein cyflymder a chynigiodd ein helpu os oedd angen yn y dyfodol.”
Hyfforddiant sefydlu yn y gampfa
“Roedd hi'n gyfeillgar iawn, a gwnaeth yn siŵr fy mod yn ymwybodol o bopeth heb fynd dros y manylion roeddwn i eisoes yn eu gwybod o fod wedi bod yn mynd i’r gampfa cyn hynny”
“Roedd Anna yn ardderchog, yn rhoi sylw i fy anghenion a'r hyn rwy'n ceisio'i gyflawni a pham, a gwnaeth i mi deimlo'n gartrefol. Cefais gyngor cyffredinol da y byddaf yn ei ddilyn er mwyn sicrhau bod fy sesiynau campfa yn cyd-fynd â fy amserlen waith a fy ngweithgareddau ffitrwydd eraill a’u bod yn gynaliadwy yn y tymor hir.”