One of our NERS Classes

Tracey

“Cefais fy atgyfeirio at sesiynau campfa Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ym mis Mai 2025 yn dilyn llawdriniaeth i gael pen-glin newydd ddiwedd mis Rhagfyr 2024, ac, ar ôl ymgynghoriad cychwynnol gyda Tom Delaney, dechreuais yn y gampfa ym mis Mehefin. Roeddwn i ychydig yn bryderus gan nad wyf erioed wedi bod â diddordeb mewn chwaraeon nac ymarfer corff, ac oherwydd fy mod dros 60 oed, roedd y gampfa ymhell y tu hwnt i’m cylch cyfforddus, ond gan fy mod wedi cael y cyfle, y lleiaf y gallwn ei wneud oedd rhoi cynnig arni.

Roeddwn i’n falch o ddod o hyd i bobl hŷn eraill oedd wedi cael llawdriniaethau tebyg i mi, felly doeddwn i ddim yn teimlo’n chwithig am fy lefel ffitrwydd o gwbl.  

Roeddwn i’n teimlo bod awyrgylch y grŵp a chefnogaeth Tom yn hynod galonogol. Rydw i newydd gwblhau fy sesiwn atgyfeirio olaf gan y meddyg teulu ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, ac rydw i’n teimlo cymaint yn well ar ôl mynd i’r sesiynau, nid yn unig yn gorfforol ond hefyd mae fy iechyd meddwl wedi elwa’n fawr. O ganlyniad i hyn, rydw i wedi ymuno â’r gampfa ac yn bwriadu parhau i fynd yn rheolaidd, ac mae hynny’n rhywbeth na feddyliais i byth y byddwn i’n ei ddweud.

Byddwn i’n argymell yn llwyr eich bod chi’n derbyn y cynnig am le ar y cynllun – gall newid bywyd go iawn.”

One of our NERS Classes

Wayne

Maen nhw wedi bod yn allweddol iawn yn ei adferiad ar ôl ei strôc.

Mae ei symudedd, ei gydbwysedd a’i gydsymudiad wedi gwella’n fawr i lefel na fyddem wedi meddwl y byddai byth yn ei chyflawni.

Heb eich cymorth chi, eich gwybodaeth a’ch angerdd anhygoel, heb sôn am eich amynedd a’ch ymrwymiad diddiwedd, dydw i ddim yn gwybod ble bydden ni wedi bod.

Mae mynychu eich dosbarthiadau bob wythnos, a chymysgu â phobl eraill yn yr un sefyllfa, hefyd wedi helpu ei gyflwr meddyliol yn fawr iawn. 

Nid yw’r effeithiau seicolegol ar ôl strôc yn cael eu trafod llawer mewn gwirionedd. Mae mynychu wedi helpu Wayne i deimlo nad yw ar ei ben ei hun.

Rydyn ni wir eisiau diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud, ac am roi gwybod i chi faint rydyn ni’n gwerthfawrogi eich dosbarthiadau. Rydym mor ddiolchgar eu bod nhw’n bodoli a’r hyn maen nhw wedi’i wneud ar gyfer adferiad Wayne.”

One of our NERS Classes

Ann

"Ymunais â’r cynllun tua mis Awst 2024 ar ôl llawdriniaeth ym mis Mehefin 2024 i gael falf newydd yn lle’r falf aortig.

Roeddwn i bob amser yn berson eithaf heini oherwydd bod gen i gŵn ac yn cerdded llawer. Rwy’n berson sydd bob amser yn symud. Daeth cyflwr fy nghalon yn syndod i mi gan nad oedd gennyf unrhyw symptomau ac yn ddiarwybod i mi cefais fy ngeni â falf ddwylen aortig gynhenid a ddarganfuwyd yn ystod fy llawdriniaeth.

Doedd gen i ddim syniadau rhagdybiedig cyn yr ymgynghoriad adsefydlu gan fy mod i’n agored i’r hyn oedd yn cael ei gynnig. Roedd yr ymgynghoriad yn gadarnhaol ac yn agoriad llygad ynghylch yr hyn y gellid ei gyflawni ar ôl y llawdriniaeth fawr hon. Cefais amser i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod wedi fy mhoeni ynglŷn â’r broses iacháu.

Pan ddechreuais y dosbarth atgyfeirio at ymarfer corff gyntaf, roeddwn i’n wannach nag yr oeddwn i’n meddwl. Roeddwn i’n flinedig ar ôl y dosbarthiadau ac yn eithaf araf. Wrth i bob wythnos fynd yn ei blaen, roeddwn i’n cyflawni mwy ac yn gallu teimlo fy hun yn mynd yn gryfach. Cefais gefnogaeth a chyngor enfawr gan y nyrs gardiaidd a’n hyfforddwr.

Rwy’n gwybod y gallai fod yn anodd i rai pobl wneud yr ymdrech i fynychu’r dosbarthiadau hyn, ond rwy’n argyhoeddedig eu bod yn amhrisiadwy wrth newid agwedd rhywun at ein hiechyd. Roedd y gwiriadau meddygol ar ein pwysedd gwaed a chyfradd y galon ac ati yn rhan gyntaf y rhaglen hon mor galonogol. Ni allaf argymell y rhaglen hon ddigon.”

 

One of our NERS Classes

Lee

“Pan es i i’m hymgynghoriad cychwynnol yn ôl ym mis Chwefror ar gyfer y cynllun atgyfeirio at ymarfer corff, roeddwn i’n nerfus iawn i ddweud y gwir. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ac roedd gen i amheuon ynghylch a fyddwn i hyd yn oed yn gallu cadw i fynd.  

Ond er gwaethaf y nerfau, gadewais y sesiwn honno’n teimlo’n obeithiol – roedd rhywbeth yn teimlo’n addawol. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi wneud newid, ac roedd hwn yn teimlo fel y lle iawn i ddechrau.

Yn yr wythnosau cynnar hynny, doeddwn i wir ddim yn ffit. Roedd hyd yn oed symudiadau syml yn fy ngadael yn fyr o anadl, ac roedd fy lefelau egni yn isel. Roedd hi’n anodd peidio â theimlo’n ddigalon ar y dechrau, ond fe wnaeth cefnogaeth ac arweiniad Tom fy nghadw i fynd.  

Erbyn hyn – 16 wythnos yn ddiweddarach – alla i ddim credu pa mor bell rydw i wedi dod. Rwy’n teimlo cymaint yn well ynof fy hun, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae fy ffitrwydd wedi gwella’n aruthrol, mae lefelau fy egni wedi codi, ac rwy’n teimlo’n fwy brwdfrydig yn gyffredinol. Mae tasgau bob dydd yn teimlo’n haws, ac rydw i wedi sylwi ar wahaniaeth mor gadarnhaol yn fy hwyliau a’m hyder.

Os ydych chi’n ystyried ymuno â rhaglen atgyfeirio at ymarfer corff ac yn ansicr neu’n nerfus fel yr oeddwn i, alla i ddim ei argymell ddigon.  

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Tom am yr anogaeth drwy gydol y rhaglen ac am wneud i mi deimlo’n hyderus i ddod ato gydag unrhyw broblemau neu bryderon.”

Tenby Leisure Centre Gym

David

“Cefais fy atgyfeirio at raglen y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff gan fy ffisiotherapydd er mwyn gweithio ar gryfhau fy ngliniau a chymalau fy ffêr, a oedd yn boenus oherwydd arthritis oedd yn gwaethygu. Roedd fy symudedd wedi lleihau’n fawr fel na allwn fynd â’r cŵn am dro mwyach ac roeddwn i cael cryn anhawster a phoen, yn enwedig wrth ddringo llethrau, stepiau a grisiau.  

Ynghyd â’r problemau corfforol a’r boen, roeddwn i’n mynd yn isel fy ysbryd oherwydd colli symudedd a oedd yn cyfyngu ar lawer o weithgareddau arferol.

Roedd yr ymgynghoriad a’r asesiad cychwynnol gyda Tom yn hamddenol ac yn effeithlon, ac roeddwn i’n teimlo ei fod yn gwrando arnaf, ei fod yn fy neall, a fy mod i’n gweithio gyda rhywun a fyddai’n fy helpu i gael y gorau o’r cwrs. Gosodais a chytunais ar fy amcanion, ac ymrwymais i gwblhau’r 16 wythnos i weld pa welliannau y gellid eu cyflawni.

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, roeddwn i’n ôl yn y gampfa, a Tom yn fy nghyflwyno i’r gwahanol beiriannau i ddechrau ar fy nghynllun ymarfer corff. Gan nad oeddwn wedi gwneud unrhyw waith campfa ers tua tair blynedd, roedd yn dda cael arweiniad arbenigol i roi hyder i mi wrth weithio ar yr offer a’r gosodiadau. Roedd hefyd yn galonogol bod ymhlith eraill ar raglen y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, pob un ar wahanol lefelau o allu a chyda’u nodau eu hunain i weithio arnynt.

Mwynheais y rhaglen yn fwy wrth i’r wythnosau fynd heibio. Yn wir, roeddwn yn mwynhau cymaint nes i mi gwblhau rhai sesiynau campfa ychwanegol yn annibynnol yn ogystal â’r rhai o fewn amserlen y rhaglen.

Felly, ar ôl 16 wythnos rydw i nawr wedi cwblhau’r cwrs. Felly sut ydw i’n teimlo am yr hyn y mae wedi’i wneud i mi? Rydw i wedi cyflawni fy holl nodau a osodwyd gyda Tom ar y dechrau.  

Mae fy nghoesau’n gryfach, ac yn cynnal fy ngliniau a fy ffêr yn well. Gallaf gerdded ymhellach gyda llawer llai o boen nag oeddwn i bedwar mis yn ôl. Y bonws go iawn yw fy mod i’n teimlo’n llawer mwy heini a chryfach ar y cyfan. Mae fy mhwysedd gwaed, sydd wedi bod ychydig yn amrywiol erioed, wedi aros yn sefydlog, fel y mae fy mhwysau.”