Canolfan Hamdden Hwlffordd uned aerdymheru

Diweddariad: 04/09/2026

Diolch i chi i gyd am eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus ynglŷn â'r problemau aerdymheru yn y Gampfa. Rydym am eich sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd ac yn gwneud popeth posibl i gwblhau'r prosiect cyn gynted ag y gallwn. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf:

 

• Rydym wedi cwrdd â chontractwyr a rheolwyr prosiect yn ddiweddar i gwblhau'r cynlluniau ar gyfer gosod y system aerdymheru newydd

 

• Mae'n bleser gennym gadarnhau bod yr uned newydd wedi'i harchebu

 

• Bydd yr uned bellach yn mynd trwy'r broses weithgynhyrchu a chyflenwi, a bydd cyfnod o amser cyn iddi gyrraedd a'n contractwyr yn barod i'w gosod.

 

Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â'r holl bartïon dan sylw a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i'r prosiect ddatblygu

 

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddefnyddio unedau oeri cludadwy ychwanegol a ffaniau i helpu i reoli’r tymheredd yn y gampfa mor effeithiol â phosibl.

 

Fel dewis arall dros dro, efallai yr hoffech ddefnyddio ein EGym, dosbarthiadau grŵp ymarfer corff neu bwll nofio. Hoffem eich atgoffa bod eich aelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi i holl ganolfannau Hamdden Sir Benfro, gan roi opsiynau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Diweddariad: 27/07/2026

 

Mae ein system aerdymheru bresennol yn ôl yn gweithio, er nad yw'n 100% effeithiol eto, mae wedi gwella'r sefyllfa. I sicrhau datrysiad hirdymor ac addas i'r diben, mae system newydd wedi'i dewis a'i harchebu.

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni aros iddi gyrraedd a chael ei gosod. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein hysbysfwrdd wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael.

 

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd parhaus.

 

Diweddariad: 01/07/2026

 

Diolch i chi gyd am eich amynedd, eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus tra bod problemau aerdymheru yn y gampfa. Rydym am eich sicrhau chi ein bod ni’n gwneud popeth posibl i ddatrys y broblem aerdymheru cyn gynted â phosibl. Dyma ddiweddariad ar y sefyllfa hon:

 

  • Mae uned newydd wedi’i sicrhau 
  • Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n contractwyr i sicrhau bod gwaith yn parhau heb oedi 
  • Yn y cyfamser, rydym yn cymryd camau i wella’r amodau yn y gampfa - mae unedau oeri cludadwy a gwyntyllau ychwanegol wedi’u gosod i helpu i reoli’r tymheredd mor effeithiol â phosibl

 

Fel dewis arall dros dro, efallai yr hoffech ddefnyddio ein EGYM, dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp, neu’r pwll nofio. Nodyn i’ch atgoffa bod eich aelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi i holl ganolfannau Hamdden Sir Benfro, gan gynnig mwy o opsiynau yn ystod y cyfnod hwn