Er mwyn ein helpu i symud i'n cronfa ddata cwsmeriaid newydd, ni fydd archebion ar-lein drwy wefan ac ap Hamdden Sir Benfro ar gael dros dro.
Bydd archebion ar-lein yn cau am 4pm ddydd Sul 22 Tachwedd ac yn ailagor am 9am ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Yn ystod yr amser hwn:
- Ni fyddwch yn gallu gwneud archebion trwy ein gwefan na'n ap.
- Bydd unrhyw weithgareddau neu sesiynau rydych chi eisoes wedi'u harchebu yn dal i fynd ymlaen fel arfer.
- Os hoffech archebu gweithgaredd sy'n digwydd ddydd Llun 23 Tachwedd neu ddydd Mawrth 24 Tachwedd, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol dros y ffôn neu dewch i'n gweld wyneb yn wyneb ar y diwrnod.
Bydd archebion ar gyfer dydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr ar gael pan fydd gwasanaethau archebu ar-lein yn ailagor am 9am ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd wrth i ni gwblhau'r gwelliannau hyn i'n gwasanaethau.
Tîm Hamdden Sir Benfro