Rydym yn falch o rannu adnodd defnyddiol gan Chwaraeon Anabledd Cymru a all helpu unigolion ag anableddau i archwilio llwybrau posibl i Gemau Paralympaidd yr Haf a Gemau'r Gymanwlad.
Drwy ddewis eich math o amhariad, gallwch ddarganfod chwaraeon y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, dysgu am ddigwyddiadau, gwirio meini prawf, a dod o hyd i restr o glybiau insport i ddechrau arni.
Cliciwch yma: https://www.disabilitysportwales.com/cy-gb/perfformiad/darganfod-eich-tan
Gwyliwch y fideo isod i glywed gan Ben Pritchard, enillydd Medal Aur Paralympaidd, a’r Codwr Pŵer uchelgeisiol Evelyn Thomas yn siarad am eu profiadau.