Diwrnod Amgylchedd y Byd

Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr!

Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd eleni, rydym yn annog pawb yn ein canolfannau i gymryd ychydig o gamau syml i helpu i leihau gwastraff a diogelu ein hamgylchedd

 

-Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio

-Dewch â’ch tywel eich hun

-Cerddwch neu feiciwch i’r ganolfan lle bo modd

-Ailgylchwch eich gwastraff yn y biniau cywir

 

Dyma rai camau gweithredu rydyn ni wedi’u cymryd:

Goleuadau awtomatig a LED – yn lleihau’r defnydd o ynni yn gyffredinol drwy sicrhau bod goleuadau’n effeithlon a dim ond ynghyn pan fo angen.

 

Gorchuddion pwll – yn cadw gwres pan nad yw pyllau’n cael eu defnyddio, gan leihau’r ynni sydd ei angen i ailgynhesu dŵr.

 

Uned biomas (Hwlffordd) – yn troi gwastraff amaethyddol yn ffynhonnell tanwydd adnewyddadwy, gan leihau dibyniaeth ar nwy traddodiadol.

 

Unedau gwres a phŵer cyfunedig mewn rhai safleoedd – yn cynhyrchu trydan a gwres o un ffynhonnell ynni, gan sicrhau’r effeithlonrwydd gorau a lleihau gwastraff.

 

Paneli solar mewn rhai safleoedd – yn harneisio ynni adnewyddadwy o’r haul i bweru cyfleusterau a lleihau allyriadau carbon.

 

Clorin a gynhyrchir o halen – yn cynhyrchu clorin ar y safle gan ddefnyddio halen, gan leihau cludo cemegau a gwella effaith amgylcheddol hirdymor.

 

Mae ein gwefan wedi’i chynnal yn wyrdd, ac rydym yn cymryd camau i leihau’r allyriadau carbon y mae ein tudalennau gwe yn eu cynhyrchu.  

 

Mae Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod wedi bod yn cyfarfod â disgyblion Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod. Mae disgyblion wedi bod yn ymweld i ddysgu am y paneli solar newydd a’r system storio batri, sy’n ein galluogi i storio ynni dros ben yn hytrach na’i golli yn ôl i’r grid!