EGYM

Hamdden Sir Benfro yw'r cyntaf yng Nghymru i lansio cylched EGYM wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI)

 

Mae Hamdden Sir Benfro yn falch o gyhoeddi lansiad cylched EGYM cwbl integredig gyntaf Cymru, gan ddod â ffitrwydd arloesol wedi'i bweru gan AI i'r gymuned. Mae'r buddsoddiad mawr hwn mewn iechyd a lles wedi'i wneud yn bosibl trwy Chwaraeon Cymru, trwy gyllid grant Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ymrwymiad Hamdden Sir Benfro i arloesi a ffitrwydd hygyrch i bawb. Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, mae'r gampfa AI newydd yn cynnwys technoleg EGYM o'r radd flaenaf, gan ddarparu profiad ymarfer corff wedi'i bersonoli, wedi'i ysgogi gan ddata. Mae cysylltiad llawn y gylched EGYM yn addasu gwrthiant yn awtomatig, yn olrhain cynnydd, ac yn darparu adborth amser real, gan sicrhau bod aelodau o bob gallu yn cael y gorau o bob sesiwn. 

Dywedodd Gary Nicholas, rheolwr Gwasanaethau Hamdden yn Hamdden Sir Benfro:
"Rydym yn hynod falch o fod y ganolfan gyntaf yng Nghymru i gynnig cylched EGYM lawn. Diolch i gyllid Chwaraeon Cymru, rydym yn dod â dyfodol ffitrwydd i'n cymuned, gan wneud ymarfer corff yn fwy diddorol, effeithiol a hygyrch. P'un a ydych chi'n newydd i'r gampfa neu'n ymwelydd rheolaidd, bydd y dechnoleg hon yn eich cefnogi a'ch tywys i gyflawni eich nodau yn ddiogel ac yn effeithlon." 

Mae'r system EGYM wedi'i chynllunio ar gyfer pawb - o ddechreuwyr i ddefnyddwyr profiadol, gan gynnig profiad wedi'i bersonoli’n llwyr trwy offer clyfar ac olrhain digidol. Mae'n symleiddio hyfforddiant cryfder a chardio, gan sicrhau ffurf gywir, lleihau'r risg o anaf, ac optimeiddio canlyniadau. Disgwylir i'r gampfa AI agor ar 31 Mawrth, gyda sesiynau cynefino AM DDIM i bawb sy'n awyddus i brofi'r genhedlaeth nesaf o ffitrwydd. I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn brawf, ewch i Dyma EGym | Hamdden Sir Benfro neu dewch draw i’w gweld.