Ein Gwasanaethau Digidol

Elwa i’r Eithaf ar ein Gwasanaethau Digidol

Oeddech chi'n gwybod ein bod yn cynnig ystod eang o wasanaethau digidol sydd wedi'u cynllunio i wneud rheoli eich aelodaeth, archebion a thaith ffitrwydd yn haws nag erioed?

P'un a ydych chi’n brysur, yn cynllunio eich sesiwn ymarfer corff nesaf, neu'n chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf, mae ein hoffer digidol yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad a manteisio i'r eithaf ar eich aelodaeth.

Gwasanaethau Digidol Sydd Ar Gael

Ap Ffôn Symudol

Popeth sydd ei angen arnoch mewn un lle, yn syth o'ch ffôn clyfar.

Archebu a Rheoli Gweithgareddau

Archebu dosbarthiadau, gweithgareddau a chyfleusterau yn gyflym ac yn hawdd, a rheoli eich archebion unrhyw bryd.

Dosbarthiadau Rhithwir

Cyfle i fod yn egnïol ble bynnag yr ydych chi gydag ystod o ddosbarthiadau ffitrwydd rhithwir ar alw a dosbarthiadau byw.

Amserlenni Byw

Gweld amserlenni gweithgareddau a dosbarthiadau cyfredol.

Cysylltu Aelodau'r Teulu

Cysylltu aelodau'r teulu â'ch cyfrif gan ddefnyddio ein ffurflen syml ar-lein i hwyluso rheoli.

Cardiau Aelodaeth Digidol

Cadw eich cerdyn aelodaeth wrth law ar eich dyfais ar gyfer mynediad cyflym a chyfleus.

Diweddariadau Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion, digwyddiadau, hyrwyddiadau ac ysbrydoliaeth ffitrwydd diweddaraf.

Teithiau Rhithwir

Archwiliwch ein cyfleusterau cyn eich ymweliad gyda'n teithiau rhithwir.

Ailgofrestru Aelodaeth Dysgu Nofio yn Hawdd

Ailymuno â'ch hoff wersi a gweithgareddau yn gyflym ac yn hawdd pan mae'n amser adnewyddu.

EGYM

Mwynhewch ymarferion corff wedi'u personoli, olrhain cynnydd a thechnoleg ffitrwydd craff trwy EGYM.

Wi-Fi am ddim

Cadwch mewn cysylltiad wrth ymweld â'n canolfannau gyda mynediad Wi-Fi am ddim.

 

Pam Mynd yn Ddigidol?

✔ Ar gael 24/7

✔ Cyfleus ac yn hawdd i'w ddefnyddio

✔ Gwybodaeth ar gael unrhyw bryd, yn unrhyw le

✔ Arbed amser yn rheoli eich aelodaeth a'ch archebion

✔ Gwella eich profiad cyffredinol fel cwsmer

 

Os nad ydych wedi archwilio'r gwasanaethau digidol hyn eto, nawr yw'r amser perffaith i ddechrau ac elwa i’r eithaf ar bopeth sydd ar gael trwy eich aelodaeth.