Mae’n bleser gennym gyflwyno budd cyffrous i bob defnyddiwr cofrestredig – mynediad RHAD AC AM DDIM i’n dosbarthiadau rhithiol.
Gall pob cwsmer sydd wedi cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro bellach fwynhau mynediad diderfyn i sesiynau ymarfer corff Les Mills, sydd ar gael unrhyw bryd ac yn
unrhyw le. P’un a ydych yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, cadw at eich trefn arferol, neu barhau i gadw’n heini tra byddwch i ffwrdd, mae ein dosbarthiadau rhithiol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi ymarfer corff ar eich telerau eich hun.
Sut i gael mynediad:
Lawrlwythwch ap Hamdden Sir Benfro
Mewngofnodwch (neu cofrestrwch yn gyntaf os ydych yn aelod newydd)
Cliciwch ar ‘Dosbarthiadau Rhithiol’ a dechreuwch wylio.
Mae mor syml â hynny – dim cost, dim cyfyngiadau, dim ond ffitrwydd sy’n cyd-fynd â’ch bywyd chi.
Felly pam na wnewch chi roi cynnig arni – a rhoi gwybod i’ch ffrindiau a’ch teulu hefyd! Y cyfan sydd angen iddyn nhw ei wneud yw cofrestru i gael mynediad.