> ukrainan flag with dark blue background

Mae'r Tîm Adsefydlu a Mudo eich angen chi

Rydym yn chwilio am letywyr i gefnogi Cartrefi i Wcráin

Allwch chi agor eich calonnau a'ch cartrefi i fod yn letywyr Cartrefi i Wcráin...

Nid yw'r sefyllfa yn Wcráin wedi gwella digon i ganiatáu i deuluoedd ddychwelyd ac ailadeiladu eu bywydau a'u cartrefi. Rydym yn estyn allan eto at bobl Sir Benfro, i ddod ymlaen a darparu cartrefi i deuluoedd o Wcráin.

Rydym yn chwilio am lety mwy o faint â 2 neu fwy o ystafelloedd gwely

Yn ddelfrydol yn agos at dref ac ar rwydweithiau trafnidiaeth da

Byddwch yn derbyn cefnogaeth benodol gan ein tîm a thaliad di-dreth Cartrefi i Wcráin o £500 y mis i ddiolch i chi

Bydd teulu o Wcráin yn teimlo'n ddiogel, yn sicr ac wedi ymgartrefu

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi agor eich cartrefi, i deulu o Wcráin, cysylltwch â 01437 776301 neu [javascript protected email address] a bydd y tîm yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn esbonio'r gefnogaeth a roddir i'n lletywyr er mwyn creu perthynas letya gadarn.