> Pwll Nofio

Cau Pwll Nofi Penfro dros Waith Cynnal a Chadw Hanfodol

Cau Pwll Nofi Penfro dros Waith Cynnal a Chadw Hanfodol

Hoffem eich hysbysu y bydd ein pyllau nofi ar gau dros dro rhwng 23/03/2026 a 27/04/2026 er mwyn cynnal gwaith hanfodol ar golofnau neuadd y pwll. Mae’r colofnau hyn wedi’u lleoli rhwng y prif bwll a’r pwll bach, yn ogystal ag o amgylch perimedr neuadd y pwll, a bydd angen eu hatgyweirio mewn camau.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a all hyn ei achosi ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod gwaith hanfodol hwn.

Darpariaeth Nofio Amgen
Bydd cyfleusterau nofi ar gael o hyd yn y pum Canolfan Hamdden arall yn Sir Benfro, gyda Dinbych-y-pysgod, Aberdaugleddau a Hwlffordd fel yr opsiynau agosaf. Cliciwch ar y ddolen isod i weld amserlenni cyfleusterau llawn.

Gwybodaeth Aelodaeth
Gall aelodau sy’n dymuno rhewi eu haelodaeth ar gyfer y cyfnod hwn wneud hynny drwy gysylltu â’r ganolfan cyn 23 Mawrth. Bydd aelodaeth yn parhau i gynnig mynediad llawn i bob Canolfan Hamdden arall ar draws y sir i’r rhai sydd am barhau i ddefnyddio ein cyfleusterau mewn lleoliadau eraill.

Bydd pob cyfleuster arall yng Nghanolfan Hamdden Penfro ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm yn y ganolfan.

Gwersi Nofio Tymor yr Haf

Byddwch yn ymwybodol y bydd gwersi nofio'r tymor hwn yn gorffen wythnos yn gynnar, yr wythnos olaf o wersi fydd yr wythnos sy'n cychwyn 16.03.2026.

Bydd ein tymor newydd o wersi nofio yn dechrau ar 27.04.2026 ar gyfer cwrs 11 wythnos, fydd yn rhedeg tan yr wythnos sy'n dechrau 13.07.2026, heblaw am hanner tymor a gŵyl y banc mai (04/05/26)

 

[javascript protected email address]
01437 776660