> Pwill Nofio Crymych

Cau Dros Dro Pwll Nofio Crymych

Sylwer y bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Crymych ar gau o 28 Mawrth tan 19 Ebrill er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwaith canlynol yn cael ei wneud:

  • Gosod uned trin aer newydd
  • Ailaddurno neuadd y pwll
  • Gosod goleuadau LED newydd

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, a diolchwn i chi am eich amynedd tra bo’r gwelliannau pwysig hyn yn cael eu cwblhau.

Hoffem atgoffa pob defnyddiwr y bydd darpariaeth nofio amgen ar gael yng nghanolfannau hamdden eraill Hamdden Sir Benfro ar draws y sir yn ystod y cyfnod hwn.

Sylwer y bydd gweddill Canolfan Hamdden Crymych yn parhau ar agor ac yn gweithredu fel arfer drwy gydol y cyfnod cau.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus.