Polisi Archebu, Di-bresenoldeb a Chanslo Hwyr

Absenoldeb a Chanslo Hwyr 

Mabwysiadwyd y polisi canlynol ar gyfer y cyfleusterau hamdden a reolir gan Hamdden Sir Benfro. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Hamdden Crymych, Canolfan Hamdden Abergwaun, Canolfan Hamdden, Neuadd Chwaraen a Ganolfan Tennis Hwlffordd, Canolfan Hamdden Aberdaugleddau a Neuadd Thornton, Neuadd Chwaraeon Ty Ddewi a Chanolfan Hamdden Dinbych y Pysgod. Mae’r polisi yn ymwneud â phob gweithgaredd unigol, sesiwn a dosbarth a archebir ymlaen llaw yn un o’r cyfleusterau a restrwyd uchod. 

 Mae gan ddefnyddwyr Cofrestredig Hamdden Sir Benfro yr hawl i archebu ymlaenllaw unrhyw weithgaredd, sesiwn a dosbarth hyd at 6 niwrnod cyn y bydd y gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth i ddigwydd. 

 Ni chaiff y rhai sy ddim yn aelodau archebu unrhyw weithgaredd, sesiwn neu ddosbarth ymlaenllaw  Gellir archebu gweithgareddau, sesiynau, dosbarthiadau (e.e. bowls, sboncen, cyrtiau badminton a chyfleusterau eraill) gan y rhai sy ddim yn aelodau ar y dydd, serch hynny, rhaid iddyn nhw dalu wrth archebu (felly dydy archebu dros y ffon ddim ar gael i rai sy ddim yn aelodau) 

 Unwaith bydd yr unigolyn wedi archebu cedwir lle iddo/iddi ar gyfer y gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth hwnnw Canslo’n Hwyr 

 Mae gan bob unigolyn i fyny hyd at 4 awr (o amser gweithio) cyn y gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth a archebwyd ymlaenllaw i ganslo eu lle 

 Os bydd gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth yn cael ei ganslo o fewn yr 4 awr yma bydd yn rhaid i’r unigolyn dalu ffî Canslo’n Hwyr 

 Rhoddir ystyriaeth i ganslo hwyr lle bydd yr unigolyn wedi wynebu rheswm na ellid fod wedi ei rhagweld am yr absenoldeb (bydd hyn yn dibynnu ar ddoethineb y Swyddog ar Ddyletswydd) 

 Os bydd unigolyn arall yn cymryd y gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth a ganslwyd ni chodir y tâl canslo hwyr. Gwneir pob ymdrech o dan yr amgylchiadau hyn i gysylltu ag unigolion ar restrau aros, lle bo hynny’n berthnasol. 

 Ni chaniateir i unrhyw unigolyn sy wedi derbyn ffî torri gair am Absenoldeb ymgymryd ag unrhyw weithgaredd, sesiwn neu ddosbarth hyd nes y byddan nhw wedi clirio’u dyled. Absenoldeb 

 Os bydd unigolyn yn methu bod yn bresennol mewn gweithgaredd, sesiwn neu ddosbarth a archebwyd ymlaenllaw heb roi gwybod am hynny (gweler Canslo’n Hwyr) codir “Ffî Absenoldeb.” Bydd yr unigolyn sy wedi methu bod yn bresennol yn agored hefyd i dalu am y gweithgaredd a archebwyd ymlaenllaw. 

 Ni chaniateir i unrhyw unigolyn sy wedi derbyn ffî torri gair am Absenoldeb ymgymryd ag unrhyw weithgaredd, sesiwn neu ddosbarth hyd nes y byddan nhw wedi clirio’u dyled. 

 Bydd cofrestru canslo hwyr/absenoldeb yn digwydd ar ddechrau diwrnod yn ddyddiol