Mae Sir Benfro yn enwog am ei thraethau hardd a'i harfordir trawiadol. O'r traethau trefol yn Ninbych-y-Pysgod i'r nifer o hafanau llai, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Yn rhai o'r traethau gorau yng Nghymru gallwn fwynhau archwilio pyllau glan môr, nofio'n ddiogel rhwng y baneri ar ein traethau sy'n cael eu goruchwylio gan achubwyr bywyd ac adeiladu cestyll tywod ar rimynnau o dywod euraidd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'n holl draethau a beth sydd ganddynt i'w gynnig, dilynwch y ddolen hon i wefan Croeso Sir Benfro. Rydym yn lwcus o gael 12 traeth Baner Las ar garreg ein drws, y mwyaf mewn un sir yng Nghymru. Mae'r Faner Las yn safon ryngwladol sy'n cydnabod y traethau glanaf â'r ansawdd dŵr gorau. Mae'n rhaid i draethau fodloni cyfres o wiriadau llym i dderbyn y statws hwn. Y traethau yn Sir Benfro sydd wedi cyrraedd y safon hon ynghyd â saith arall sydd wedi ennill dyfarniad Gwobr Arfordir Glas am lanweithdra ac ansawdd dŵr yw:Y Faner LasArfordir GlasAmrothAbberiddyCoppet HallDruidstonSaundersfootManorbierTraeth y Gogledd, Dinbych-y-PysgodPenallyTraeth y Castell, Dinbych-y-PysgodCaerfaiTraeth y De, Dinbych-y-PysgodFreshwater EastLydstepBae Gorllewin AngleDale Newgale Whitesands Poppit Gogledd BroadHaven Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â thraethau Baner Las ac Arfordir Glas Hamdden Sir Benfro a Thraethau Sir Benfro Mae Hamdden Sir Benfro yn falch o'r rôl rydym yn ei chwarae wrth gynnal traethau hardd Sir Benfro a'u cadw nhw'n lleoedd diogel a difyr i ymweld â nhw. Er mwyn cynnal ein traethau o'r safon uchaf, mae Hamdden Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn. Gwaith a gwblhawyd yn cynnwys: Gwiriadau i'r cyfarpar diogelwchGwiriadau i'r pontŵnGwiriadau i'r ffôn argyfwngGweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), sy'n gwarchod 13 traeth.Rheoli ceisiadau Baner Las ac Arfordir GlasRheoli cyfyngiadau cŵnGweithio mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro AddysgRydym i gyd yn chwarae rhan i gadw'n traethau yn ddiogel ac yn lân. Y tro nesaf i chi ymweld, gall casglu pum darn o sbwriel helpu i wneud ein traethau yn lleoedd glanach a mwy diogel i ymweld â nhw.Bob blwyddyn mae damweiniau, pobl yn boddi a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar ein traethau ac o gwmpas dŵr agored. Mae Hamdden Sir Benfro mewn partneriaeth â RNLI a Nofio Cymru yn cefnogi cyflawniad y pedair neges allweddol i ddiogelwch dŵr ac ymgyrch Arnofiwch i Fyw:Pwyllwch a meddyliwch: – a ydy hi'n ddiogel? Pa beryglon sydd yna? A oes yna achubwr bywyd?Arhoswch gyda'ch gilydd – arhoswch yn agos at deulu neu ffrindiau. Os ydych yn mynd ar eich pen eich hun, dywedwch wrth rywun i le yr ydych yn mynd a phryd y byddwch yn ôl. Cariwch ffôn i ffonio am help.Arnofio – Arnofiwch i Fyw. Ymestynnwch allan mewn siâp seren ar eich cefn ac arnofio nes eich bod yn teimlo'n ddigyffro. Unwaith rydych yn ddigyffro, chwifiwch eich breichiau, gwaeddwch am sylw a nofiwch i ddiogelwch os gallwch.Ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau. Gofynnwch am y gwasanaeth tân ac achub os ydych ar y tir. Ar ôl i chi ffonio am help, gwiriwch os oes rhywbeth y gallwch ei daflu i helpu rhywun i arnofio. Peidiwch â mynd i'r dŵr eich hun.Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch dŵr ewch i wefan RNLI Dolenni am fwy o wybodaeth: Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol Proffiliau a chanlyniadau dŵr ymdrochi CNC Cyfyngiadau cŵn Arfordir Penfro Croeso Sir Benfro Cadwch Gymru’n Daclus