1. Gall pob aelod ddefnyddio’r ystafell ffitrwydd ar eu menter eu hunain,
yn dilyn a kickstart. Gellir gweld datganiad ymrwymiad iechyd yn yr
Canolfan Hamdden a chynghorir pob aelod i droi at y wybodaeth hon cyn
cymryd rhan mewn unrhyw ymarfer corff.
2. Lle mae’r opsiwn talu a ddewiswyd trwy Ddebyd uniongyrchol, bydd
aelodaeth yn parhau i redeg o fis i fis (mae’r telerau lleiaf yn berthnasol
i rai categorïau aelodaeth) hyd nes y derbynnir hysbysiad canslo (trwy
lenwi ffurflen ganslo) gyda mis o rybudd yn cael ei roi.
3. Ni ellir trosglwyddo Aelodaeth Hamdden Sir Benfro.
4. Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i unigolion os
byddan nhw’n methu dilyn arweiniad y staff sydd ar ddyletswydd.
5. Bydd Aelodaeth Aelwyd Actif yn cynnwys o leiaf un oedolyn ac un
unigolyn iau / yn ei arddegau. Dylai fod dau oedolyn ar y mwyaf, ac
uchafswm cyffredinol o bum unigolyn. Rhaid i holl aelodau’r aelwyd fyw
yn yr un cyfeiriad.
6. Os bydd defnyddiwr cofrestredig yn ei arddegau (13-19 oed) yn dod yn
oedolyn (20 oed) yn ystod tymor Aelodaeth Aelwyd Actif, bydd yn dod
yn anghymwys ac yn cael ei dynnu oddi ar yr aelodaeth os bydd y newid
hwn yn golygu bod mwy na dau oedolyn yn rhan o’r aelodaeth.
7. Bydd unigolyn sydd ag Aelodaeth Actif Iau yn newid yn awtomatig i
Aelodaeth Unigolyn Actif yn ei Arddegau ar ôl dod yn 13 oed.
8. Bydd unigolyn sydd ag Aelodaeth Unigolyn Actif yn ei Arddegau yn
newid yn awtomatig i Aelodaeth Unigolyn Actif sy’n Oedolyn ar ôl troi’n
20 oed.
9. Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais am
aelodaeth neu i adnewyddu’r aelodaeth ac i ohirio neu ganslo aelodaeth
yn sgil camymddwyn neu achosi perygl i’r defnyddwyr eraill.
10.Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i nodi ar ba ddyddiau ac
amserau y bydd mynediad i’r ganolfan a’r defnydd o’i chyfleusterau
a’i hoffer ar gael i aelodau. Mae ganddyn nhw’r hawl hefyd i ddatgan
bod cyfleusterau ac offer yn anaddas i’w defnyddio a phenderfynu ar
amserau agor a chau’r ganolfan a phob cyfleuster ynddi.
11.Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i gau pob safle neu rannau
ohonyn nhw heb dalu ffioedd yn ôl. Bydd Hamdden Sir Benfro’n
ymdrechu i ddarparu 7 niwrnod o rybudd i unrhyw waith cynnal a chadw
/ adnewyddu arfaethedig.
12.Gellir codi tâl canslo hwyr / diffyg presenoldeb ar gyfer pob aelod sy’n
canslo’n hwyr (o fewn y lwfans cyfyngedig ar gyfer archeb), neu’n methu
â chyrraedd ar gyfer dosbarth/sesiwn a archebwyd ymlaen llaw.
13.Rhaid i aelodau gadw at Bolisi Mynediad Hamdden Sir Benfro, y gellir ei
weld yn www.hamddensirbenfro.co.uk.
14.Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i newid neu ddileu amserau,
diwrnodau a hyfforddwyr dosbarth ymarfer corff heb roi rhybudd ymlaen
llaw. Bydd Hamdden Sir Benfro’n ymdrechu i roi gwybod i bob aelod am
unrhyw newid i’r rhaglen a hysbysebwyd.
15.Rhaid i aelodau gyflwyno’u cardiau aelodaeth bob tro byddan nhw’n
ymweld â’r ganolfan cyn defnyddio’r cyfleusterau, ac os na wneir hynny,
bydd y ffi arferol yn cael ei chodi.
16.Ni chaiff neb arall ddefnyddio’r cerdyn aelodaeth heblaw’r aelod y
rhoddwyd ef iddo. Mae Hamdden Sir Benfro’n cadw’r hawl i ddileu
cerdyn aelodaeth, heb roi ad-daliad ffi, os bydd yn cael ei ddefnyddio gan
unrhyw un ar wahân i’r aelod.
17.Mae cardiau aelodaeth yn parhau i fod yn eiddo i Hamdden Sir Benfro
sy’n cadw’r hawl i gadw unrhyw gerdyn aelodaeth os bydd yr aelod dan
sylw wedi methu taliad.
18.Mae’n rhaid i unrhyw aelod sy’n colli cerdyn wneud cais am un arall, a
bydd rhaid talu am hwn.
19.Nid oes modd talu taliadau aelodaeth yn ôl fel arfer, oni bai fod
amgylchiadau eithriadol lle gellir ystyried achosion unigol.
20.Cyfrifoldeb yr aelod yw sicrhau ei fod yn ffit o safbwynt meddygol ar
gyfer unrhyw ymarfer corff y mae’n cymryd rhan ynddo yn y lleoliad. Os
oes gan aelod hanes o glefyd y galon, trafferth gyda’r cefn, pwysedd
gwaed uchel neu gyflyrau meddygol eraill y mae’n gwybod amdanyn
nhw neu’n amau yn eu cylch, dylai ofyn am gyngor meddyg cyn dechrau
ar ymarfer corff corfforol neu ddefnyddio cyfleusterau’r sawna a’r ystafell
stêm. Mae pob aelod yn defnyddio’r cyfleusterau a’r offer ar eu menter
eu hun ac nid yw Hamdden Sir Benfro’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw
niwed neu anaf i unrhyw aelod sut bynnag yr achoswyd hynny.
21.Nid yw Hamdden Sir Benfro’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo’r
aelodau sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Hoffwn atgoffa’r aelodau nad oes
gan staff yr hawl i dderbyn pethau gwerthfawr nac eiddo i’w diogelu.
22.Adolygir y ffioedd a’r taliadau bob blwyddyn. Bydd newidiadau i ffioedd
yn cael eu harddangos gyda rhybudd o fis o leiaf. Bydd pob didyniad
misol yn ymgorffori’r newidiadau mewn taliadau. Bydd hysbysiad o
newidiadau i ffioedd yn cael ei arddangos ym mhob cyfleuster hamdden
a’i anfon dros yr e-bost at bob aelod o leiaf mis cyn y newid.
23.Bydd aelodau sy’n dymuno canslo eu taliadau Debyd uniongyrchol o
fewn isafswm tymor yr aelodaeth yn atebol i dalu’r balans sy’n weddill.
Bydd methdalwyr yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn aelodau nes bod y
cyfrif hwn wedi’i setlo