Teitl: Defnyddio offer ffotograffiaeth/Recordio yng nghyfleusterau Hamdden Sir Benfro

Polisi: Polisi Ffotograffiaeth/recordio

Mae’r defnyddio offer ffotograffiaeth neu recordio yn cynnwys ffonau symudol yn cael ei wahardd oni bai fod caniatâd wedi’i dderbyn gan aelod o’r Tîm Rheoli cyn defnyddio camera neu ddyfais arall.

 

Gall ffotograffiaeth/recordio ddigwydd yn yr ardal y cytunwyd arno yn unig ac o’r person/gwrthrych y cytunwyd arno yn y Ffurflen Ganiatâd Ffotograffiaeth/Recordio

 

Eithriadau i Ffotograffiaeth/Recordio

Ni chaniateir i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio offer ffotograffiaeth neu recordio yn cynnwys ffonau symudol o dan unrhyw amgylchiadau yn yr ardaloedd canlynol: 

· Yr holl ardaloedd newid 

· Ardaloedd y Toiledau

· Ystafelloedd Iechyd (Sawna/Ystafell Stêm)

Bydd hyn yn gymwys hefyd i ffotograffiaeth /recordio grŵp o unigolion h.y. gala, cystadleuaeth etc lle na chafwyd caniatâd gan bob un o’r unigolion sy’n cymryd rhan.

Sut bynnag, yn achos sefydliad sy’n gyfrifol am y gweithgaredd ac sy’n gallu dangos i’r tîm rheoli eu bod wedi derbyn pob caniatâd perthnasol oddi wrth naill ai'r unigolion neu yn achos plant eu rhieni/gwarcheidwaid i ffotograffiaeth /recordio ddigwydd yna fe fydd y tîm rheoli yn cytuno i’r cais.

Os bydd unrhyw gwsmer yn cwyno neu’n mynegi pryder ynglŷn â’r defnydd o offer ffotograffiaeth neu recordio yn cynnwys ffonau symudol, caiff y caniatad ei dynnu’n ôl. 

Bydd methu cadw at unrhyw un o’r canllawiau a chyfarwyddiadau oddi wrth staff y cyfleuster yn arwain at dynnu nôl y caniatad i ffotograffiaeth/ recordio.

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD – FFOTOGRAFFIAETH A FIDEO MEWN CANOLFANNAU HAMDDEN